Ar-lein, Mae'n arbed amser

Enwau lleoedd ym Merthyr Tudful wedi’u cynnwys mewn cyfres o bodlediadau a gweminarau

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Hyd 2021
ccc

Mae rhai o enwau lleoedd a thirweddau Merthyr Tudful wedi’u cynnwys mewn nifer o bodlediadau a gweminarau a gynhyrchwyd mewn ymdrech i ddiogelu enwau lleoedd gwreiddiol, yn y Gymraeg.

Yn dilyn llwyddiant arolwg cyhoeddus i ddeall arwyddocâd enwau lleoedd a thirweddau pwysig ynghyd â darpariaeth map stori, rhyngweithiol ar-lein (www.culturalconnections.wales <http://www.culturalconnections.wales/>), mae deg podlediad a dau gweminar wedi cael eu cyhoeddi gan brosiect #CulturalConnections / CysylltiadauDiwylliannol.

“Mae enwau lleoedd Cymraeg yn adrodd stori,” dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio.. “Oddeutu, 480OC, cafodd Tudful, merch y brenin Brychan o Frycheiniog ei merthyru yn ystod ymosodiad paganaidd. Enwyd y llecyn, lle y cafodd ei lladd ym Merthyr Tudful, er mwyn cofio amdani.

“Fodd bynnag, o ganlyniad i nifer o resymau, mae rhai enwau lleoedd traddodiadol yn cael eu colli. Efallai fod twf y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau sydd yn olrhain gweithgareddau yn yr awyr agored yn ychwanegu at yr arferiad hwn. Gallai Seisnigeiddio enwau hefyd fod yn ganlyniad i ddiwydiant a’r mewnfudiad. Mae Hirwaun yn cael ei ynganu’n Herwin yn lleol, er enghraifft.”

Mae’r podlediadau’n ehangu ar y straeon a’r wybodaeth a gyflwynir ar y map stori. Mae’r gyfres yn cynnwys oddeutu deg pennod ddwyieithog - pennod ragarweiniol ac un sydd ynn canolbwyntio ar bob un o wardiau’r prosiect; Ynysybwl; Rhigos; Plymouth; Bedlinog; y Faenor; Treharris; Maerdy; Ynys Owen a Chyfarthfa.

Archwilir nifer o themâu sydd yn cynnwys diwylliant lleol, tirweddau cyfnewidiol, iaith, daearyddiaeth, datblygiad diwydiannol a threftadaeth a hanes.

Gellir dod o hyd i’r podlediadau ar bob prif blatfform gan gynnwys Spotify - https://spoti.fi/2Y0R19, Apple podcasts a Google drwy chwilio am #CulturalConnections / CysylltiadauDiwylliannol.

Cafodd dau gweminar eu cynhyrchu ar gyfer athrawon; un ohonynt ar gyfer oed cynradd a’r llall ar gyfer oed uwchradd. Maent yn cyflwyno’r prosiect a’i bwrpas trawsgwricwlaidd gan gyflwyno amrywiaeth o gyfleoedd i ddefnyddio’r prosiect mewn gwersi. Bydd y rhain yn cael eu rhannu ag ysgolion ac maent ar gael drwy chwilio am #CulturalConnections / CysylltiadauDiwylliannol ar YouTube.

Mae #CysylltiadauDiwydiannol wedi ei gomisiynu gan Gweithredu Gwledig Cwm Taf – y Rhaglen Datblygu Gwledig ym Merthyr Tudful ac yn Rhondda Cynon Taf ac sydd wedi ei ariannu gan raglen LEADER, yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru ar gyfer 2014-2020 sydd wedi ei ariannu gan Gronfa’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a gan Lywodraeth Cymru.

Darparwyd y prosiect gan gwmni ymgynghorol amgylcheddol TACP (UK) Ltd o Gaerdydd a thîm yn cynnwys Black Mountains Archaeology, GeoArch, Jack Pulman-Slater a To the Blue Group.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni