Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rydym wrth ein bodd o fod wedi ein gosod yn rheng #1 yn y UK ar Fynegai Ailgylchu Carbon Eunomia!
- Categorïau : Press Release
- 18 Medi 2019

Rydym wrth ein bodd o fod wedi ein gosod yn rheng #1 yn y UK ar Fynegai Ailgylchu Carbon Eunomia!
Mae’r Mynegai’n dangos pa weithgareddau ailgylchu gan awdurdodau lleol sy’n darparu’r buddion carbon mwyaf; gan leihau’r ôl troed carbon yn y pen draw.
Hoffem ddiolch i’n holl breswylwyr a gymerodd ran yn ein casgliadau ailgylchu wythnosol, yn ogystal â’n partneriaid WRAP, a ddarparodd gefnogaeth ariannol a thechnegol i ni.
Os oes angen help neu gyngor arnoch o ran ailgylchu, yna cysylltwch! Gallwch gysylltu â ni nawr i gael gwybod:
- Beth allwch ac na allwch ei ailgylchu
- Pa ddiwrnod o’r wythnos gaiff eich ailgylchu ei gasglu
- Pa fagiau, biniau neu flychau allai fod eu hangen os nad ydynt gennych eisoes ac o ble i’w harchebu nhw am ddim
Cliciwch yma am wybodaeth bellach: https://www.merthyr.gov.uk/resident/bins-and-recycling/