Ar-lein, Mae'n arbed amser
Preswylwyr creadigol Merthyr Tudful yn derbyn cefnogaeth o gynllun £1m Creu Cyffro
- Categorïau : Press Release
- 04 Mai 2022
Mae mwyn na £1m yn cael ei fuddsoddi er mwyn sefydlu cynllun hyfforddiant ym Merthyr Tudful er mwyn datblygu preswylwyr lleol yn artistiaid, cerddorion, actorion a gwneuthurwyr ffilmiau.
Mae’r Rhaglen Hyfforddiant y Diwydiannau Creadigol yn cael ei gydlynu gan Lles@Merthyr ac yn cael ei gefnogi gan 10 o bartneriaid yn cynnwys, Cerddoriaeth Gymunedol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Brifysgol Agored a Screen Alliance Wales.
Bydd y chwe mis nesaf yn gweld rhaglenni hyfforddiant yn cael eu cynnal mewn lleoliadau partner Theatr Soar, Y Coleg Merthyr Tudful, Redhouse Cymru, Y Bothy ym Mharc Cyfarthfa, a’r Clinig Creadigol yn y Gurnos.
Partneriaid eraill yw Beacon Bees, yr awdur a’r llenor lleol Anthony ‘Bunko’ Griffiths, cwmni theatr PuppetSoup, First Campus, Screen Alliance Wales ac Into Film.
“Enw’r rhaglen yw Creu Cyffro,” meddai pennaeth Tai ac Adfywio'r Cyngor Chris Long. Y bwriad yw cydweithio gan gefnogi cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ac oedolion, y di waith a phobl gyflogedig.”
Y project cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o Greu Cyffro oedd coffâd cymunedol am Covid sydd nawr yn cael ei arddangos yn Eglwys Crist Heolgerrig, Merthyr Tudful.
Cefnogodd artistiaid preswyl Castell Cyfarthfa Allison Richards a Rob Taylor (ARRTDUO) bobl ifanc i greu darluniau gwydr yn cynrychioli profiadau pobl o’r pandemig. Mae’r gwydr yn cael ei oleuo o’r cefn ac wedi ei osod ar sylfaen o bren castan sy’n dal 10 cannwyll.
Mae Merthyr Tudful yn un o ddim ond 100 cymuned yn y DU i dderbyn cyllid gan Gronfa Adnewyddiad Cymunedol y DU. Cynllun £220 million i helpu’r economi adfer o effaith y Coronafeirws trwy gefnogi projectau sy’n hybu buddsoddiad mewn sgiliau, busnesau lleol a chymunedau a helpu pobl i ddod o hyd i waith.