Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diweddariad Llync Dwll Nant Morlais 3.12.24

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Rhag 2024
Sinkhole 3 Dec 24

Mae peirianwyr yn gweithio ar ddatrysiad i sefydlogi'r twll cyn gynted â phosibl.

Mae'r gwaith brys ddoe a heddiw wedi cynnwys:

  • Ffurfio argae ar Nant Morlais er mwyn i ni allu gosod pympiau i orbwmpio'r dŵr a'i atal rhag llifo drwy'r cwlfer.
  • Parhau gydag archwiliadau dronau o'r cwlfer.
  • Gwneud arolygon radar treiddiad daear i nodi rhagor o wagleoedd.
  • Gollwng lefel dŵr cronfa ddŵr y Pwll Newydd i atal dŵr gorlifo rhag mynd i'r cwlfer.

Mae gennym swyddogion diogelwch ar y safle 24 awr y dydd i gadw'r ystâd yn ddiogel.

Ein nod yw cael preswylwyr eiddo ym mhen isaf y Cul-de-sac yn ôl adref erbyn diwedd yr wythnos hon. Rydym yn gweithio gyda Dŵr Cymru i gael cyflenwad dŵr yn ôl i'r eiddo hynny.

O ran gweddill yr ystâd, rydym yn gweithio gyda'r cwmnïau trydan,nwy a dŵr i ddarparu ail-gysylltiadau dros dro i'r eiddo sy'n weddill.

Unwaith eto, diogelwch yw ein prif flaenoriaeth.

Byddwn yn darparu diweddariad pellach yfory.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni