Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diweddariad Llyncdwll Nant Morlais 4.12.24
- Categorïau : Press Release
- 04 Rhag 2024

Rydym bellach wedi cwblhau'r archwiliadau ac nid oes unrhyw faterion pellach wedi'u nodi o fewn yr archwiliad, felly mae'r cwymp wedi'i leoli yn ardal y llyncdwll.
Rydym wedi creu argae ar Nant Morlais a byddwn yn dechrau pwmpio dŵr heddiw o’r gilfach i’r allfa. Efallai y gwelwch bibellau ar hyd y llwybr ac i wneud lle i hyn, mae un lôn ar gau ar Heol Pant, gyda goleuadau traffig dwy ffordd i gynnal llif y traffig.
Nid yw maint y llyncdwll wedi cynyddu ers ddoe.
Rydym yn cysylltu â chwmnïau trydan, dwr a nwy i sefydlu cyflenwadau dros dro i alluogi rhai preswylwyr i ddychwelyd adref. Gobeithiwn gael mwy o wybodaeth am hyn yfory.
Sylwer: Mae’r groesfan pelican gerllaw Ysgol Gynradd Pantysgallog yn parhau ar agor o’r ochr ogleddol ar gyfer yfory, tra byddwn yn gweithio i ailagor y llwybrau troed.