Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diweddariad ar ailddatblygiad y Ganolfan Ddysgu Gymunedol (CDC)

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Mai 2022
Neighbourhood Learning Centre revamp

Mae oedi yn rhaglen adeiladu Canolfan Dysgu Cymunedol (CDC) y Cyngor yn Gurnos yn golygu y bydd yn annhebygol o gael ei gwblhau hyd y gaeaf 2022, yn hytrach na’r hydref fel y gobeithiwyd, yn wreiddiol.

Mae’r adeilad yn cael ei ailddatblygu er mwyn darparu ‘canolfan lety unigryw’ ar gyfer pobl ifanc sydd rhwng 16 a 24 oed ac mae’n darparu tai a hyfforddiant ar yr un safle.

Dechreuodd y gwaith dymchwel ar yr adeilad ym mis Chwefror ac mae wedi dod i ben erbyn hyn. Bydd gwaith yn parhau ar y tu fewn trwy’r haf ond bydd yr arwyneb allanol yn cymryd rhagor o amser a hynny yn sgil asesiadau ecolegol a’r angen am drwydded ystlumod gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau fod rhywogaeth o ystlumod yn cael ei diogelu trw’r adeilad cyfan.

Fel rhan o gynllun Rhaglen Buddsoddiad Cyfalaf y Cyngor, bydd adnoddau cyflogadwyedd a hyfforddiant y ganolfan yn cael eu hadleoli i ddau floc a bydd y trydydd bloc yn cael ei addasu’n fflatiau. 

Derbyniodd y Cyngor £1,129,000 ar gyfer y prosiect gan Gronfa Rhaglen Gyfalaf Disgresiynol Cwm Taf Morgannwg sydd wedi dynodi y dylai gwaith ar gyfer pobl ifanc a phlant sydd mewn gofal dderbyn blaenoriaeth.

Rydym yn awr yn y broses o gomisiynu ymarfer tendr ar gyfer y darparwr cymorth a fydd wedi’i leoli yn y bloc llety ac a fydd yn darparu cymorth tai ar gyfer y preswylwyr.

Bydd y cymorth hwn yn “lefel isel,” sydd yn golygu y bydd y preswylwyr yn barod ar gyfer dysgu annibynnol ac yn barod i fanteisio ar hyffordiant a chymorth cyflogaeth ond bydd angen cymorth arnynt i reoli tenantiaeth neu gymorth tai, cyffredinol.  Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Tai Merthyr Valleys Homes a’r darparwr cymorth newydd er mwyn rheoli’r cartrefi.

Byddwn yn parhau i gynnig diweddariadau ar y cynllun ac ailagor/lansio’r fflatiau a’r adnoddau hyfforddiant wrth i ragor o wybodaeth ein cyrraedd.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni