Ar-lein, Mae'n arbed amser

Grantiau newydd ar gael i gefnogi’r diwydiant twristiaeth, chwaraeon a grwpiau cymunedol

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Hyd 2021
Red Lions

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi lansio Rhaglen Grantiau i helpu mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol, busnesau twristiaeth a chlybiau chwaraeon i dalu am brosiectau cyfalaf.

Bydd y Grant Cyfalaf ar gyfer Mentrau Cymdeithasol, Twristiaeth a Chwaraeon (SETS) yn cefnogi ymgeiswyr i gyflawni gwaith ar adeiladau a seilweithiau, ac i wario symiau mawr i’w helpu i ehangu eu gwasanaethau a’u gweithgareddau presennol.

Ar ôl siarad ag ystod o fusnesau a grwpiau, mae’r Cyngor wedi ymrwymo £250,000 i’r rhaglen dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a bellach mae symiau o hyd at £25,000 ar gael i’w dyfarnu.

“Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen pendant i gefnogi pob math o fentrau a grwpiau cymdeithasol, busnesau twristiaeth a chlybiau chwaraeon gyda chyllid cyfalaf,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Masnacheiddio.

“Mae hyn yn arbennig o wir yn dilyn y pandemig, wrth i nifer o sefydliadau golli incwm a’r gallu i fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw ynghyd â’r modd i gynllunio ar gyfer twf. Lluniwyd y grant i roi help llaw iddynt wneud hynny.”

Fodd bynnag, ni fydd y cynllun yn ariannu unrhyw waith sy’n ymwneud ag addasu yn sgil y pandemig, nac ychwaith unrhyw astudiaeth ddichonoldeb sy’n cyd-fynd â gwaith cyfalaf posibl.

Bydd y canlynol yn gymwys i gael cyllid:

• Gwaith adeiladu mewnol ac allanol sy’n gwella neu’n diogelu adeilad y busnes/ sefydliad
• Symiau mawr i’w gwario ar offer seilwaith
• Gwaith cyfalaf i hwyluso’r dasg o Drosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT)

Ni allwch wneud cais am gefnogaeth ar gyfer:

• Costau refeniw
• Gwaith addasu yn sgil Covid-19, fel sgrinio
• Costau prynu adeiladau, tir neu gerbydau
• Costau sy’n ymwneud â threuliau rhedeg arferol
• Astudiaethau dichonoldeb neu ffioedd penseiri ar gyfer datblygiadau cyfalaf arfaethedig
• Gweithdrefnau statudol megis caniatâd cynllunio neu reoliad adeiladu
• Offer/eitemau eraill ac iddynt ddefnydd blynyddol un-tro neu ddefnydd tymhorol
• Costau ôl-weithredol, h.y. costau am waith neu offer sydd eisoes wedi’i wneud/ brynu

Mae angen i ymgeiswyr fod yn fusnesau twristiaeth annibynnol (darparwyr atyniadau a llety yn bennaf); unrhyw fath o fusnes cymdeithasol, h.y. menter gymdeithasol, grŵp cymunedol a gyfansoddwyd, CIC, clwb chwaraeon, sefydliad ieuenctid, grŵp addoli, cymdeithas breswylwyr ac ati; ac mae’n rhaid bod y sefydliad/busnes wedi’i leoli ym Merthyr Tudful.

Y swm uchaf y gall ymgeiswyr wneud cais amdano yw £25,000. Os ymgeisir am fwy na £15,000, bydd yn ofynnol cyfrannu 20% tuag at gyfanswm cost y prosiect. Am brosiectau sy’n costio llai na £15,000, ni fydd unrhyw ofyniad am gyllid cyfatebol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener nesaf, sef 15 Hydref.

Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi gofrestru’ch diddordeb trwy e-bostio CRF@merthyr.gov.uk. Yna, fe anfonir ffurflen gais a dogfen ganllaw atoch ar gyfer Grant Cyfalaf SETS. Bydd y Tîm Adfywio Cymunedol wrth law i ateb unrhyw gwestiynau trwy e-bost.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni