Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhaglen brentisiaeth newydd ar gyfer pobl ifanc 14 – 16 oed

  • Categorïau : Press Release , Council , Education , Schools
  • 19 Ebr 2022
20220211_111023

Mae creu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc yn ein cymuned yn uchelgais ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Gan weithio mewn partneriaeth gydag EE rydym wedi datblygu cynllun peilot unigryw o’r enw ‘Seren Dyfodol’ ar gyfer ysgolion y Fwrdeistref Sirol. Mae’r cynllun yn rhan o Raglen Llwybr Gwaith y Fwrdeistref Sirol ar gyfer pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

Bydd y cynllun blaengar hwn yn cefnogi a mentora pobl ifanc gyda gwaith cartref, profiad gwaith a gweithgareddau chwaraeon o’u dewis am 2 flynedd. Bwriad y cynllun yw datblygu hyder pobl ifanc yn eu gallu a sicrhau bod ganddynt ystod o brofiadau er mwyn hyrwyddo eu huchelgais ar gyfer y dyfodol.

Mae’r rhaglen newydd hon yn un o lawer o ffyrdd mae’r Cyngor yn ceisio cryfhau eu Strategaeth Addysg RARS, gan sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl a bod gan bawb gyfle teg i lwyddo yn academaidd ac wrth ddatblygu sgiliau allweddol trwy gynnig ystod o gyfleoedd.

Mae gan y Cyngor ‘weledigaeth economaidd’ sef i ddatblygu hyb economaidd ffyniannus. Mae hon yn un enghraifft o’r Cyngor yn gweithio gyda budd ddeiliaid yn y sector breifat er mwyn cryfhau a chyflawni’r weledigaeth ar gyfer Merthyr Tudful.

Dwedodd Deb Newton Ryan, rheolwr Cyflogadwyedd: "Bydd y rhaglen newydd hon rhwng EE a CBSMT  yn galluogi pobl ifanc i dderbyn cefnogaeth o safon uchel ond hefyd i dderbyn profiad gwaith o fewn y diwydiant Gwasanaethau Cwsmeriaid ym Merthyr Tudful. Mae’r bartneriaeth waith rhwng y sector gyhoeddus a phreifat wedi bod yn berffaith a bydd yn ddeilliant anhygoel i bawb sy’n rhan ohono."

Dwedodd Jared Green, Cydlynydd SAP Aspire “ Rydw i mor falch i fod yn rhan o broject Seren Dyfodol ac yn methu dod dros waith caled pawb wrth gychwyn y project anhygoel hwn. Mae prentisiaethau yn flaenoriaeth I Lywodraeth Cymru, felly os gallwn barhau i ddatblygu cysylltiadau fel hyn gyda busnesau'r sector breifat yn y dyfodol a defnyddio'r project peilot gydag EE fel cynllun penodedig, yna bydd yn gyfle anhygoel ar gyfer ein pobl ifanc.”

Dwedodd Lita, disgybl o Ysgol Cyfarthfa ar y Cynllun Seren Dyfodol: “ Mae’r profiad yn EE yn mynd yn dda hyd yn hyn, rydw i’n mwynhau yn enwedig bod yn bencampwr ping pong. Mae’r pobl yn EE yn garedig a chroesawgar sydd yn help gan nad ydw i’n swil i siarad bellach. Byddai cael  mwy o weithgareddau yn hwyl.”

Dywedodd llefarydd ar ran EE: “Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith fawr ar bobl ifanc yn benodol. Felly mae’n newyddion gwych ein bod yn gallu cefnogi plant ysgol y dref yn y fordd hwn. Mae prentisiaid yn dod â thalent ifanc a syniadau ffres i weithlu profiadol. Mae hefyd yn gyfle gwych i’r plant hyn gael rhywfaint o sgiliau a hyfforddiant, gyda’r bwriad o’u cefnogi i’r cam cyntaf ar yr ysgol yrfa. Mae Canolfan Gyswllt Merthyr bob amser wedi bod yn angerddol am gefnogi ein pobl a gwneud gwahaniaeth i plant y dref ac mae’r prosiect hwn yn cyfuno’r 2 nod hyn yn berffaith.”

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni