Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pont droed newydd Afon Taf yn barod i gael ei gosod

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Maw 2023
Rhydycar bridge

Mae pont droed newydd dros Afon Taf ac sydd yn cydgysylltu Pentref Hamdden Merthyr, Rhydycar a chanol y dref ar ei ffordd o’r safle adeiladu yn Sir Amwythig.

Cafodd y bont ei hadeiladu gan Beaver Bridges a bydd y strwythur yn cael ei rhoi yn ei le Ddydd Sul (12 Mawrth.) Bydd rhan o Avenue de Clichy ar gau, drwy’r dydd er mwyn caniatáu i graen ei osod yn ei le.

Roedd yr hen bont, oedd â chyfyngiadau uchder yn rhy gul ar gyfer cerddwyr a seiclwyr i basio’i gilydd ac mae’n cael ei hadnewyddu fel rhan o raglen gwelliannau teithio Llesol, Llywodraeth Cymru a ariannir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y strwythur newydd yn cael ei leoli, rhywfaint i’r gogledd, tuag at fan croesi newydd a bydd yn 3.5 medr o led ac yn caniatáu i gerddwyr a seiclwyr groesi ar yr un pryd.

Bydd y ffordd ar gau rhwng 6am a 6pm a bydd dargyfeiriadau er mwyn caniatáu i fodurwyr deithio trwy ganol y dref.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas: “ Rydym eisiau gwneud bywyd yn haws i bobl sy’n croesi'r bont mewn cadair olwyn neu fygi a hefyd annog seiclwyr ac eraill sy’n defnyddio Taith Taf i ddod i ganol y dref.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni