Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gweithredu i orfodi gwahardd ysmygu mewn ysbyty leol

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Meh 2023
Smoking operation 1

Ar Fehefin yr 8fed bu swyddogion Tim Diogelu’r Cyhoedd a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cynnal patrol ar y cyd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl i sicrhau bod dim ysmygu ar dir yr ysbyty.

Daeth y gwaharddiad i rym er mwyn sicrhau nad yw ymwelwyr i’r ysbyty yn cael eu heffeithio gan risgiau ysmygu goddefol, yn enwedig pan maent yn ymweld a’r Ysbyty i dderbyn gofal meddygol. Mae safleoedd ysbytai hefyd yn cynnwys cemegon a deunyddiau sy’n llosgi’n hawdd, felly gallai sigaret wedi ei thaflu arwain at ganlyniadau trasig.

Mae’r gwaharddiad yn golygu ei bod yn drosedd i ysmygu ar dir ysbyty, ac mae Hysbysiad Gosb Benodol o £100, neu erlyniad yn bosib i rai yn methu Dilyn y gwaharddiad.

Yn ystod y patrol cafwyd 10 o bobl yn torri’r gwaharddiad. Roedd gan un unigolyn silindr ocsigen wedi ei gysylltu i gadair olwyn ac yn ysmygu yr un pryd, felly roedd yr unigolyn nid yn unig yn peryglu ei fywyd ei hun a bywydau pobl eraill, gyda’r perygl o’r silindr ocsigen yn ffrwydro.

Unwaith y cysylltwyd â nhw, diffoddodd pob unigolyn ei sigaréts a rhoddwyd cyngor priodol iddynt gan y swyddogion.

Dywedodd Michelle Symonds, Aelod Portffolio Diogelu’r Cyhoedd: “Fel gorfodwyr y ddeddfwriaeth hon bydd ein swyddogion yn cymryd agwedd gytbwys tuag at y gwaharddiad ar ysmygu.

“I ddechrau rydym yn defnyddio’r gweithrediadau hyn i ymgysylltu ac egluro’r ddeddfwriaeth, fodd bynnag byddwn yn symud ymlaen i gamau gorfodi mwy cadarn pe bai achosion o dorri amodau yn parhau i ddigwydd.”

Mae cleifion yn y bwrdd iechyd yn cael cynnig cymorth i reoli dibyniaeth ar ysmygu drwy gynnig triniaethau amnewid nicotin. Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno ysmygu wneud hynny wrth y ddwy brif fynedfa i'r safle.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni