Ar-lein, Mae'n arbed amser

Byddai gwaith ailgylchu plastigau yn creu mwy na 100 o swyddi

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Hyd 2021
Jayplas

Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal â thrigolion lleol ynghylch cynlluniau i adeiladu cyfleuster ailgylchu a phrosesu plastig a fyddai’n creu mwy na 100 o swyddi lleol.

Yn ogystal â darparu dros 110 o gyfleoedd am gyflogaeth uniongyrchol a 44 o swyddi anuniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi, byddai’r ffatri’n lleihau swmp y gwastraff sy’n cael ei waredu trwy dirlenwi, gan leihau ôl troed carbon y wlad.

Yr ymgeisydd am y gwaith yw Jayplas sy’n un o arweinwyr y farchnad ailgylchu plastigau yn y DU. Ar hyn o bryd, mae’n cynnal ymgynghoriad “cyn-ymgeisio’ a fydd yn para am fis er mwyn casglu sylwadau’r preswylwyr cyn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor y Fwrdeistref Sirol ym mis Rhagfyr.

Bydd y Cyngor yn cynnal ei gyfnod ymgynghori cyhoeddus ei hun, unwaith y bydd y cais cynllunio wedi’i gyflwyno’n ffurfiol.

Os rhoddir caniatâd cynllunio, bydd y gwaith o adeiladu’r ffatri yn dechrau yng ngwanwyn 2022 ac yn cymryd tua 12 mis i’w gwblhau.

Mae’r ymarfer “cyn-ymgeisio” yn weithredol tan ddydd Llun, 15 Tachwedd.

Sefydlwyd Jayplas ym 1975, ac mae’n gweithredu naw safle ailgylchu a gweithgynhyrchu nwyddau eildro ledled y DU, gan arbenigo mewn proses “unigryw” ar gyfer creu ac ailgylchu plastigau.

Byddai’r cyfleuster arfaethedig yn cael ei adeiladu ar dir sydd wedi’i ddynodi’n barthau ar gyfer cyflogaeth a rheoli gwastraff, a saif i’r dwyrain o Heol Melin yr Afr ac i’r gorllewin o’r A4060 o fewn ardal ddiwydiannol sefydledig.

Byddai dau warws unigol yn gartref i offer a pheiriannau penodol ar gyfer golchi a phrosesu plastigau, a byddai’r cynhyrchion terfynol yn cael eu storio’n allanol mewn “byrnau” cyn eu symud ymlaen.

Byddai buddion cymunedol a chyffredinol y cynllun yn cynnwys:

• cynnig cyfleoedd cyflogaeth lleol i Ferthyr Tudful a’r ardal gyfagos yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu. Unwaith y byddai’n gwbl weithredol, byddai’r cyfleuster yn darparu dros 110 o gyfleoedd cyflogaeth yn uniongyrchol a 44 o swyddi anuniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi;

• gwneud defnydd o safle mawr, gwag ar gyfer cyflogaeth;

• lleihau maint y gwastraff sy’n cael ei waredu trwy safleoedd tirlenwi, gan helpu’r newid i “economi ddiwastraff”;

• lleihau’r angen i allforio plastigau gwastraff o’r DU;

• darparu ffynhonnell ychwanegol o ddeunyddiau pacio eildro ar gyfer Cymru.

acio eildro ar gyfer Cymru.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni