Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cymrwch ran yn ein harolwg adferiad economaidd
- Categorïau : Press Release
- 14 Ebr 2021

Wrth i siopau ailagor ledled Cymru, mae busnesau Merthyr Tudful yn cael eu hannog i gyfranogi mewn arolwg a fydd yn cynorthwyo’r Cyngor i’w cynorthwyo hwy.
Bwriad yr Ymgynghoriad Gweledigaeth Economaidd a’r Cynllun Adfer ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yw canfod pa effaith y mae’r pandemig wedi ei gael ar fusnesau, pa gymorth sydd ei angen arnynt o hyd a pha gamau y maen’t wedi eu cymryd neu y gallant eu cymryd er mwyn arallgyfeirio a sicrhau eu ffyniant masnachol yn y dyfodol.
“Mae COVID-19 wedi bod yn ergyd farwol i nifer o’n busnesau ond maent wedi dangos gwydnwch a pharodrwydd i addasu er mwyn ymdrin â’r heriau,” meddai Chris Long, Pennaeth Adfywio a Thai.
“Mae Swyddogion Adfywio a Refeniwiau a Budd-daliadau’r Cyngor wedi cynorthwyo busnesau i sicrhau dros £30 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys grantiau i’w cynorthwyo i arallgyfeirio eu cynnig.
“Bydd y cynllun 15 mlynedd nid yn unig yn gymorth i’w hadferiad ond bydd hefyd yn darparu’r ffocws hirdymor sydd ei angen er mwyn i’r economi dyfu a bod o fudd i’n preswylwyr, ein cymunedau a’n busnesau. Byddem yn ddiolchgar iawn i dderbyn cymaint o adborth â phosib.”
Mae amcanion y cynllun yn cynnwys:
- sefydlu Bwrdd Adfer Economaidd
- sefydlu Partneriaeth Fusnes, Addysg a Hyfforddiant (PFAaH)
- parhau i gydlynu cymorth busnes er mwyn cynorthwyo â chynaliadwyedd busnesau lleol
- datblygu cyfleoedd i alluogi plant a phobl ifanc i gael profiad o gyfleoedd cyflogaeth ehangach trwy bartneriaeth
Mae’r Cyngor yn gweithio ag ymgynghorwyr cynllunio a dylunio, The Urbanists ac ymgynghorwyr economaidd, The Means er mwyn datblygu’r cynllun.
Cwblhewch yr arlowg yma: https://zcu.io/QTiU