Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynnig i wella pont droed Rhydycar

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Ion 2022
Rhydycar footbridge

Fel rhan o’i rhaglen Teithio Lesol, mae’r Cyngor yn ystyried cynlluniau i wella'r bont droed sy’n cysylltu Rhydycar gyda chanol y dref.

Mae’r bont droed boblogaidd bresennol yn croesi'r Afon Taf i’r Avenue de Clichy, ond mae cyfyngiadau uchder arni ac mae’n rhy gul i gerddwyr a seiclwyr i basio ei gilydd.

Mae cyfle i’r Cyngor wneud cais am gyllid Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru ac maent yn awyddus i glywed safbwynt trigolion.

“Rydym yn manteisio ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wella’r amodau i seiclwyr a cherddwyr ar draws canol y dref,” meddai’r Cyng. Geraint Thomas yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Masnacheiddio.

“Rydym eisiau gwneud bywyd yn haws i bobl groesi'r bont mewn cadeiriau olwyn neu bygis a hefyd am annog seiclwyr sy’n defnyddio'r Daith Taf i ddod i ganol y dref.”

Byddai’r bont newydd yn cael ei lleoli ychydig i’r gogledd ger croesfan newydd ac yn 3.5m o led, gan alluogi seiclwyr a cherddwyr i groesi ar yr un pryd.

Bydd y bont bresennol yn aros mewn defnydd nes i’r bont newydd agor er mwyn lleihau anghyfleustra.  

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau, e-bostiwch active.travel@merthyr.gov.uk neu gadewch sylw o dan y neges.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni