Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynghorau Balch yn dathlu Parêd Pride Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Meh 2023
pc23

Ddydd Sadwrn 17 Mehefin, ymunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ag awdurdodau lleol cyfagos yn Ne Ddwyrain a Chanolbarth Cymru i ddangos cefnogaeth i’r gymuned LHDTCIA+ a helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cymerodd CBSMT ran yn Parêd Pride Cymru, fel rhan o’r rhwydwaith ‘Cynghorau Balch’, partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a ffurfiwyd yn 2015 gyda’r nod o wella’r cymorth a gynigir i staff LHDTCIA+ mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith yn hyrwyddo cynhwysiant yn ein cymunedau ac yn ymdrechu i sicrhau bod llywodraeth leol ledled Cymru yn arweinydd gweladwy ym maes hawliau LHDTCIA+

Teithiodd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad ochr yn ochr â chydweithwyr o Rondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Caerdydd a Blaenau Gwent.

Ymunodd staff, cynghorwyr, a Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Merthyr Tudful Gyfan â miloedd o bobl ynn Ngorymdaith fwyaf Pride Cymru hyd yma i orymdeithio drwy strydoedd Caerdydd gyda’i gilydd i ddangos ymrwymiad a chefnogaeth pob cyngor i’r gymuned LHDTCIA+ yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Richards, Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Cynghorwyr a’r Swyddogion hynny a fynychodd Pride Cymru eto eleni fel rhan o rwydwaith y Cynghorau Balch. Roedd yn ddigwyddiad bywiog a lliwgar iawn gyda miloedd o bobl ar strydoedd ein prifddinas. Mae Pride yn amser i ddathlu’r datblygiadau niferus a wnaed yn y degawdau diwethaf, mae mwy o waith i’w wneud o hyd ac mae angen bod yn wyliadwrus i sicrhau nad yw’r datblygiadau hyn yn cael eu torri’n raddol.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni