Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion yn sleifio rhagolwg o’u hysgol newydd

  • Categorïau : Press Release , Council , Education , Schools
  • 20 Gor 2021
YYG

Mae staff a disgyblion a fydd yn symud i adeilad newydd Ysgol Gynradd y Graig, Cefn Coed, ar ddechrau tymor yr Hydref wedi cael gweld o gwmpas eu ‘cartref’ newydd.

Rhoddwyd taith dywys i athrawon a dosbarthiadau o Gyfnod Allweddol 2 gan y cwmni adeiladu, Kier ac roedden nhw wedi eu cyfareddu gan y cyfleusterau newydd, gydag un disgybl blwyddyn 4 yn dweud “Mae hwn yn anhygoel – allai ddim ag aros tan fis Medi!”

Bydd yr ysgol newydd yn cymryd lle’r hen adeilad cyfredol. Mae dau lawr i’r strwythur newydd o’r radd flaenaf ar gyn safle Ysgol y Faenor a Phenderyn.

Roedd effeithlonrwydd ynni y tu cefn i’r gwaith adeiladu ac mae yno’r dechnoleg ddiweddaraf o ran awyru hybrid, wedi ei reoli gan system reoli awtomatig ddeallus i ddarparu awyru ac oeri sy’n ynni effeithlon ac yn garbon niwtral. Bydd goleuo LED yno hefyd gyda rheolyddion goleuo awtomatig i leihau’r defnydd o ynni yn ogystal ag allyriadau carbon, ymhellach.

Dywedodd y Pennaeth, Mr Anstee: “Roedd y plant wedi eu cyffroi’n lân o gael sleifio rhagolwg o’u hysgol newydd ffantastig. Mae hwn yn adeilad modern gwirioneddol eithriadol, a bydd eu hamgylchedd dysgu yn gwneud mynd i’r ysgol yn bleser gwirioneddol.”

Dywedodd Mark Poole, Rheolwr Prosiect Kier: “Mae wedi bod yn anrhydedd cyflwyno ysgol gynradd newydd Ysgol Y Graig. Mae’n adeilad gwych sy'n darparu cyfleuster dysgu modern i blant y gymuned i wella eu taith addysgol."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni