Ar-lein, Mae'n arbed amser

Preswylwyr yn cytuno ar gynlluniau i ymestyn camerâu cyflymder cyfartalog

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 28 Hyd 2021
Average speed camera

Mae preswylwyr mewn rhannau o Wardiau Ynysowen, Plymouth a Threharris wedi cytuno â chynigion i ymestyn y bwriad i osod camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd yr A4054 (Ffordd Caerdydd).

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Awst a Medi 2021, gan ysgogi dros 1200 o ymatebion gan drigolion, defnyddwyr ffyrdd ac aelodau o’r cyhoedd, gyda dros 63% o bobl yn cytuno â gosod y camerâu.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar ôl i arolygon nodi bod “cyflymder troseddol yn digwydd yn barhaus” ar hyd y ffordd, gan olygu bod angen gweithredu ar frys i wella diogelwch. Ystyriwyd sawl opsiwn, a barnwyd mai camerâu cyflymder cyfartalog oedd yr ateb mwyaf effeithiol i leihau goryrru.

Dilynodd hefyd ymarfer tebyg gyda thrigolion Merthyr Vale a Mount Pleasant yn 2020 ac yn gynharach yn 2021, lle cytunodd 78% â gosod camerâu cyflymder cyfartalog ar y darn o'r ffordd sy'n rhedeg trwy'r pentrefi.

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r aelodau o’r cyhoedd a gymerodd yr amser i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad hwn.

“Mae preswylwyr wedi bod yn lleisio’u pryderon ynghylch ceir yn cael eu goryrru ers cryn amser, felly rydyn ni’n falch ein bod ni bellach yn gallu gweithredu gyda chefnogaeth y mwyafrif.

“Rwy’n mawr obeithio y bydd y mesurau hyn yn helpu preswylwyr sy’n byw ar hyd y ffordd dan sylw i deimlo’n llawer mwy diogel yn eu cartrefi.

“Ein hunig nod yn ystod y broses hon fu gwneud y ffordd yn fwy diogel i bawb a hoffwn i chwalu unrhyw awgrym ei fod yn ddull o wneud arian i’r Cyngor – NI chaiff dirwyon a roddir o ganlyniad i oryrru eu talu i gynghorau. Y Cyngor fydd yn gosod y camerâu, a’n cydweithwyr yn yr Heddlu fydd yn eu gweithredu ac yn delio â phob agwedd ar orfodaeth.”

Sicrhawyd grant o Gronfa Cyfalaf Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru ac erbyn hyn, mae proses dendro wyth wythnos wedi dechrau er mwyn sicrhau contractwr i gyflawni’r gwaith. Y gobaith yw y bydd y camerâu’n weithredol yn gynnar yn 2022.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni