Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Ras Rufeinig yn ei hol

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Medi 2022
Roman Run 22

Bydd un o rasys hir mwyaf poblogaidd y DU- Ras Rufeinig y Tudfuliaid - yn cael ei chynnal y penwythnos hwn (dydd Sadwrn, Medi 3) am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Bydd hyd at 300 o athletwyr o Brydain yn dod ynghyd yn Ne Cymru i redeg yr 16 milltir heriol, llawer ohono am i fyny a thros dir garw rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful, gan ddilyn llwybr gorymdaith y Lleng Rhufeinig o gaer i gaer.

Oni bai am 2020 a 2021, pan ohiriwyd digwyddiadau oherwydd y pandemig coronafeirws, mae’r ras wedi ei chynnal yn flynyddol ers 1980 - gan ei gwneud yn hyn na Marathon Llundain.

Syniad Cymdeithas y Tudfuliaid oedd y digwyddiad, a gychwynnwyd i ddathlu rhan o Ŵyl Dreftadaeth yn coffau merthyrdod y Santes Tudful.

Mae’r ras yn cychwyn am hanner dydd yn Stryd yr Arian ger y Gaer yn Aberhonddu ac yn gorffen ym Mharc Cyfarthfa. Bydd y rhedwyr yn dringo 500 troedfedd i bron 1600 troedfedd uwchben lefel y môr ger Cribin ym Mannau Brycheiniog cyn dychwelyd i lwybr tarmac ger cronfa’r Neuadd. Mae’r ras yn cael ei chydnabod yn un o ddigwyddiadau mwyaf heriol y wlad, gyda’r rhedwyr yn canmol y cyfeillgarwch, yr her a’r golygfeydd godidog.

Mae’r Tudfuliaid wedi ymroi i godi arian at achosion da, a bydd holl elw'r Ras Rufeinig yn mynd at elusennau Maer Merthyr Tudful, sef Cancer Aid Merthyr Tudful a Banc Bwyd Merthyr a Chynon.

Dwedodd y Maer y Cyng. Declan Sammon,: “Mae pawb wedi gweld eisiau'r Ras Rufeinig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym mor falch bod 300 o bobl wedi cofrestru i gystadlu'r penwythnos hwn.

“Gohiriwyd y ras yn 2020, pan fyddai wedi dathlu ei 40fed pen-blwydd, a bydd pob ymgeisydd eleni yn derbyn medal i ddathlu’r digwyddiad.

“Diolch arbennig i brif noddwr eleni, yr arbenigwyr isadeiledd priffyrdd Redstart, ac i bawb sy’n cymryd rhan- mwynhewch!”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni