Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Bartneriaeth ddiogelwch yn ymchwilio i YGG oddi ar y ffordd

  • Categorïau : Press Release
  • 27 Ion 2022
Off-roading Jan 22

Mae Partneriaeth Ddiogelwch Cymunedol Merthyr Tudful yn ymwybodol o faterion yn ymwneud â cherbydau oddi ar y ffordd sy’n cael eu hadrodd gan breswylwyr ar dir ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae’r Bartneriaeth, sy’n cynnwys swyddogion diogelu’r cyhoedd y Cyngor Bwrdeistref Sirol a Heddlu De Cymru yn monitro safleoedd am feiciau a cheir oddi ar y ffordd ac yn gweithredu yn erbyn unrhyw un sy’n cael ei ddal.

“Rydym yn cael galwadau niferus am y math mwyaf dychrynllyd o ymddwyn gwrthgymdeithasol, sy’n difrodi tir - tirwedd hardd yn aml- ac sy’n risg i gerddwyr a phreswylwyr,” meddai'r Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cyng. Geraint Thomas.

“Rydym yn gofyn i aelodau’r cyhoedd ein helpu trwy rannu gwybodaeth am yr unigolion sy’n cyflawni'r gweithgareddau hyn.”

Gallwch adrodd am unrhyw achosion yn gyfrinachol trwy e-bostio community.safety@merthyr.gov.uk

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni