Ar-lein, Mae'n arbed amser

Maer Ieuenctid Newydd Merthyr Tudful  

  • Categorïau : Press Release , Council , Schools
  • 18 Mai 2022
Samee Formal

Ddydd Gwener, 13 Mai 2022, cafodd Seremoni Sefydlu’r Maer Ieuenctid ei chynnal yng Nghanolfan Ddinesig Merthyr Tudful. 

Mae Samee Furreed, sydd yn 16 oed yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ac ef yw 12fed Maer Ieuenctid Merthyr Tudful. Katy Richards, 15 oed, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Esgob  Hedley yw’r Dirprwy Faer Ieuenctid.  

Wrth dderbyn y rôl, amlinellodd y Maer Ieuenctid ei dri adduned ar gyfer ei gyfnod yn y swydd. Ei adduned cyntaf yw codi ymwybyddiaeth a datblygu cymorth ar gyfer iechyd meddwl ymhlith yr ifanc.

Ail addewid Samee yw codi ymwybyddiaeth a dwyn sylw at gasineb a bwlio sydd yn rhy gyffredin o lawer yn ein bywydau beunyddiol. Dywedodd  Samee nad oes “lle i’r pethau hyn yn y byd heddiw a bod angen gwneud newidiadau ar frys.”

Ei drydydd addewid yw gweithio ar faterion sydd yn ymwneud â Newid Hinsawdd ym Merthyr Tudful. Hoffai, drwy’r cwricwlwm newydd, wella addysg ynghylch newid hinsawdd mewn ysgolion ac edrych ar ffyrdd i wella’n hamgylchedd lleol.

Slogan Samee a ddefnyddiwyd yn ystod ei ymgyrch yw, ‘Dim i mi. Ar ein cyfer ni.’ Dyma’r hyn y bydd y Cabinet yn ei goleddu wrth iddynt weithio ar ei addewidion.

Dywedodd Samee; “Rwy’n cymryd fy nghamau cyntaf yn fy rôl newydd fel Maer Ieuenctid ac rwy’n gwneud hynny â balchder. Ni fyddwn yma heddiw heb gefnogaeth pobl ifanc, gwych Merthyr Tudful. Byddaf yn gweithio’n ddiflino ar eu rhan ac yn rhoi’r parch y mae’r swydd hon yn ei haeddu.”  

Mae Samee yn aelod o Fforwm Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a hoffai i ragor o bobl ifanc gyfranogi yn y Fforwm. Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch sut i gyfranogi, cysylltwch â’r Swyddogion Cyfranogiad Ieuenctid,  Chloe Rees neu Morgan Ellis Watkins yn Merthyr Tudful Mwy Diogel ar 01685 353999 neu ar Facebook neu twitter @MTYouth.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni