Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgolion, cartrefi gofal ac adeiladau’r Cyngor yn newid i dechnoleg sy’n arbed ynni

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 15 Tach 2021
C4D6A65D-A326-4495-ADA8-A372F1C395D0

Dros y pum mis diwethaf, uwchraddiwyd dros 4000 o ffitiadau golau aneffeithlon i oleuadau LED rhad-ar-ynni, ac mae 600 o baneli solar wedi’u gosod ar adeiladau ac ysgolion CBSMT. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru i gael y sector cyhoeddus yn Garbon Niwtral erbyn 2030.

Mae hyn oll wedi bod yn bosibl diolch i wasanaeth Re:fit Cymru, un o brosiectau Llywodraeth Cymru sy’n ceisio optimeiddio effeithlonrwydd ynni mewn eiddo, gwella cyflwr ein hysgolion, lleihau allyriadau C02 ac arbed arian.

Ar ben yr arbedion hyn, bydd yr adeiladau hefyd yn elwa o uwchraddiadau trydanol a mecanyddol, gan arwain at well amgylcheddau dysgu a gweithio ac amodau mwy cyfforddus. Ymhlith y gosodiadau, ceir:

  • 30 x uwchraddiad i oleuadau LED
  • 9 x system solar PV
  • systemau gwresogi a dŵr poeth clyfar
  • inswleiddio llofftydd

Yn sgil y Prosiect hwn, amcangyfrifir bod adeiladau’n arbed £136,000 ac yn allyrru 251 tunnell yn llai o garbon bob blwyddyn.

Yn ogystal â’r prosiect adeiladau, rydyn ni’n treialu’r defnydd o gerbydau trydan ac wedi gosod goleuadau stryd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag Arbenigwr Ynni i helpu’r Cyngor i baratoi cynllun a map ffordd er mwyn i ninnau allu chwarae rôl i gyrraedd targed 2030.

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdogaeth: “Mae gan bob un ohonon ni ran i’w chwarae wrth ddatgarboneiddio a gwarchod ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Efallai bod y rhain yn ymddangos fel camau bychain, ond byddan nhw’n mynd yn bell tuag at wneud y Cyngor yn garbon niwtral a gwireddu targed Llywodraeth Cymru.

“Mae’r manteision ychwanegol a ddaw yn sgil gwell amodau dysgu a gweithio yn golygu nid yn unig ein bod yn gwneud y peth iawn dros yr amgylchedd, ond bydd ein pobl ifanc a’n gweithwyr yn dechrau gweld manteision y newidiadau hyn ar unwaith.

“Fel Cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i merthyr.gov.uk/council/decarbonisation

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni