Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sêr o Ysgolion Merthyr i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Mai 2023
Urdd 23

Yr wythnos nesaf, bydd disgyblion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dangos eu sgiliau, gwybodaeth a thalentau wrth gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023.

Bydd disgyblion talentog o ysgolion Merthyr Tudful yn cynnwys Afon Taf, Y Bendigaid Carlo Acutis, Gellifaelog, Pen Y Dre, Rhydywaun, Santes Tudful ac Ysgol-y-Graig, yn ogystal a Choleg, Merthyr Tudful yn ymuno gyda miloedd eraill o Gymru a thu hwnt i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Fe fyddan nhw yn canu, dawnsio, action, llefaru, chwarae offerynau a hyd yn oed coginio yn y digwyddiad pwysig hwn. Fe fyddan nhw’n arddangos eu doniau a’u hymroddiad i ddathlu diwylliant Cymru a’r Gymraeg, gan obeithio dod yn fuddugol, wrth gwrs!

Hon fydd yr wythfed gwaith i’r Eisteddfod fod yn sir Gaerfyrddin, ond y tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn Llanymddyfri. Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. Ei fwriad oed diogelu a dathlu’r defnydd o’r Gymraeg, ei chadw’n fyw ac yn ffynu yng nghymunedau Cymru.

Dwedodd y Cynghorydd  Michelle Symonds, Eiriolwr yr Iaith Gymraeg;
“Rydym wrth ein bodd bod Merthyr Tudful yn cael ei chynrychioli gan gymaint o blant a phobl ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Hon yw un o’r gwyliau ieuenctid mwyaf sy’n dathlu diwylliant a iaith Cymru. Mae pob cystadleuydd wedi bod trwy eisteddfodau cylch a sir i ennill y fraint i gystadlu yn y genedlaethol; mae hyn yn arbennig ac rwy’n siwr eu bod yn falch iawn!

‘Rydym yn gobeithio y bydd cynrychiowyr ein Bwrdeistref yn mynd o nerth i nerth wrth i’n gweledigaeth dyfu trwy ‘Shwmaeronment’! Pob lwc i bawb!”


Dyma restr o gynrychiolwyr Merthyr Tudful;


Dydd Llun Mai 29
09.35: Santes Tudful – Unawd Telyn yn y Pafiliwn Coch.
11.30: Santes Tudful – Unawd yn y Pafiliwn Coch..
14.25: Gellifaelog – Unawd Llefaru yn y Pafiliwn Coch.
16.05: Ysgol-y-Graig - Unawd Llefaru yn y Pafiliwn Coch.

Dydd Mawrth Mai 30
09.05: Santes Tudful –Grwp Cerddoriaeth Creadigol yn y Pafiliwn Gwyn.
09.05: Santes Tudful – Perfformiad Theatrig yn y Pafiliwn Gwyrdd.
09.40: Santes Tudful - Unawd Llefaru yn y Pafiliwn Coch.
10.00: Blessed Carlos Acutis – Coginio yn y Pafiliwn Glas.
10.50: Santes Tudful – Deuawd yn y Pafiliwn Gwyrdd.
12.50: Santes Tudful – Dawns Cyfrwng Cymysg yn y Pafiliwn Gwyn.


Dydd Mercher Mai 31
08.00: Afon Taf – Unawd Piano yn y Pafiliwn Gwyrdd.
09.15: Santes Tudful – Dawns Hip Hop Unigol yn y Pafiliwn Gwyn.
09.55: Pen Y Dre – Theatre Performance at the Green Pavilion.
10.05: Rhydywaun – Unawd Telyn yn y Pafiliwn Coch.
13.45: Pen Y Dre Unawd Llefaru yn y Pafiliwn Coch
15.45: Pen Y Dre – – Llefaru Grwp yn y Pafiliwn Coch.

Dydd Iau Mehefin 1
11.20: Rhydywaun – Unawd yn y Pafiliwn Coch.
15.45: Pen Y Dre – Unawd Chwythbrenau yn y Pafiliwn Coch.

Dydd Gwener Mehefin 2   
08.00: Coleg Merthyr Unawd Llefaru yn y Pafiliwn Coch..
12.10: Pen Y Dre – Llefaru Grwp yn y Pafiliwn Coch.

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 ewch at: www.urdd.cymru/en

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni