Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhai o sêr disglair ysgolion Merthyr yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024

  • Categorïau : Press Release
  • 24 Mai 2024
Urdd

Wythnos nesaf, bydd disgyblion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn arddangos eu sgiliau, eu dysg a’u talentau wrth iddynt gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024.

Bydd pobl ifainc talentog o ysgolion Merthyr Tudful, yn cynnwys Afon Taf, Pen y Dre, Santes Tudful, Rhyd y Grug, Pantyscallog, Ysgol-y-Graig a’r Coleg Merthyr Tudful, yn ymuno â miloedd o blant ar draws Cymru i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Byddant yn canu, yn dawnsio, yn actio, yn llefaru, yn canu offerynnau a hyd yn oed yn coginio yn y digwyddiad mawreddog hwn. Byddant yn dathlu ac yn dangos eu hymrwymiad i ddiwylliant ac iaith Cymru, yn ogystal â gobeithio dod yn gyntaf wrth gwrs!

Eleni cynhelir Eisteddfod yr Urdd ym Meifod yn Sir Drefaldwyn.

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. Ei fwriad oedd gwarchod a dathlu defnydd y Gymraeg, drwy ei chadw’n fyw ac yn ffynnu o fewn cymunedau Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Airweinydd a Eiriolwr y Gymraeg;

“Rydym wrth ein bodd bod gymaint o blant a phobl ifainc yn cynrychioli Merthyr Tudful yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Dyma’r ŵyl ieuenctid Gymraeg fwyaf ac fe’i cynhelir ym mis Mai. Mae’n dathlu iaith a diwylliant Cymru. Mae pob cystadleuydd wedi symud ymlaen drwy rowndiau’r cystadlaethau lleol a rhanbarthol er mwyn cystadlu ar y llwyfan cenedlaethol; dyma orchest wych a go arbennig a dylent fod yn falch iawn o’u hunain! Joiwch y profiad gwerthfawr.

“Rydym yn gobeithio y bydd cynrychiolaeth yr ysgolion, y plant a’r bobl ifainc yn mynd o nerth i nerth wrth i’r iaith a’r diwylliant dyfu drwy weledigaeth ‘Shwaeronment’! Pobl lwc i bawb!”

Mae rhestr o berfformwyr Merthyr Tudful fel a ganlyn:

Dydd Llun 27 Mai


08:30    Santes Tudful – Llefaru Unigol, Blwyddyn 5 a 6 

12:00    Santes Tudful – Unawd Gitâr, Bl 6 ac iau – Yr Arddorfa

13:55    Rhyd y Grug – Perfformiad Theatrig o Sgript bl 6 ac iau - Pafiliwn Gwyrdd

15:55    Santes Tudful – Unawd Telyn Unigol, Blwyddyn 6 ac iau – Y Pafiliwn Coch

 

Dydd Mawrth 28 Mai

 

08:30    Ysgol y Graig - Llefaru Unigol i ddysgwyr, Blwyddyn 3 a 4 - Y Pafiliwn Coch

11:25    Santes Tudful – Parti Deulais – Y Pafiliwn Gwyrdd

13:25    Pantyscallog – Llefaru Unigol i ddysgwyr, Blwyddyn 2 ac iau - Y Pafiliwn Coch

Dydd Mercher 29 Mai

 

08:30    Ysgol Pen y Dre – Unawd Chwythbrennau – Pabell wen

09:45    Ysgol Pen y Dre – Perfformiad Theatrig i ddysgwyr, Blwyddyn 7, 8 a 9 – Pafiliwn Gwyrdd

09:55    Afon Taf – Llefaru Unigol i ddysgwyr, Blwyddyn 7, 8, a 9 - Y Pafiliwn Coch

16:00    Pantyscallog – Côr dysgwyr Bl 6 ac iau – Y Pafiliwn Gwyrdd

16:00    Afon Taf – Unawd Piano, Blwyddyn 7, 8 a 9 - Pafiliwn Coch

 

Dydd Iau 30 Mai

 

16:30    Ysgol Pen y Dre – Unawd Chwythbrennau – Pafiliwn Coch

Dydd Gwener 2 Mehefin 


10:25                   Parti Llefaru Dysgwyr, Blwyddyn 10 ac iau - Y Pafiliwn Coch

 

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, ewch at: www.urdd.cymru/

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni