Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad am yr ysgol newydd: Ysgol Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir 3-16

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Meh 2021
New catholic school

Hoffai’r Cyngor Bwrdeistref Sirol fynd i’r afael â phryderon preswylwyr am yr ysgol newydd; Ysgol Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir 3-16, sydd i’w hagor fis Medi 2023. 

Ym mis Mehefin 2016, cymeradwyodd y Cyngor ddirprwyo pwerau ar gyfer penderfyniadau trefniadau’r ysgol, i’r Cabinet.

Cafwyd sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni na chafodd preswylwyr eu hymgynghori ynghylch y cynigion. Mewn gwirionedd cafwyd pedwar ymgynghoriad am yr ysgol ers 2018 a hynny ym Medi 2018, Ebrill 2019, Tachwedd 2020 ac Ebrill 2021.

Yn yr ymgynghoriad fwyaf diweddar, gwnaethom ni ddatgan y byddai’r cynlluniau’n arwain at adlinio cyfleusterau cymunedol ar y Greenie a Chaeau Blodau Menyn yn y Galon Uchaf.

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i gynyddu defnydd cymunedol o holl gyfleusterau ysgolion ac mae’r ysgol 3-16 newydd yn cael ei chynllunio gyda chanolbwynt amlwg ar y gymuned. Bydd cynnydd o ran cyfle i grwpiau cymunedol ddefnyddio’r cyfleusterau ehangach a ddarparwyd yn adeilad yr ysgol gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon a chwarae eraill.

Bydd maes pêl-droed pob tywydd ar gael i’w rannu rhwng yr ysgol a’r gymuned gyda llifoleuadau i’r ysgol eu defnyddio yn ystod oriau ysgol ac ar gael i’r gymuned eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol. Yn ychwanegol, bydd mynediad i’r maes parcio bellach gyda’r nos a thros benwythnosau at ddefnydd pêl-droed cymunedol i leddfu’r problemau cyfredol ar hyd Heol Galon Uchaf.

Bydd maes glaswelltog cymunedol ar gael o hyd a chyfleusterau newid cymunedol y tu allan i diroedd yr ysgol. Byddant ar Gaeau Blodau Menyn a bydd y gymuned yn gallu eu defnyddio ar bob adeg.

Wrth i’r broses gynllunio fynd rhagddo, bydd rhagor o gytuno ar gynlluniau pellach, gan gynnwys Asesiad Effaith Traffig.  Bydd yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd yn aros yn ei unfan ac yn parhau i fod ar agor i’r gymuned. Caiff iard chwarae’r gymuned ei symud, ond bydd yn parhau i fod ar ben gogleddol y safle ger Galon Uchaf a’r Ardal Gemau Aml-ddefnydd.

Ceir hefyd gynlluniau ar gyfer gwella hawliau tramwy cyhoeddus i’r Gurnos sy’n croesi’r Greenie a darparu llwybr o well ansawdd i gysylltu cymunedau Galon Uchaf, Penydarren a’r Gurnos.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Lisa Mytton:  “Mae llawer o gymhariaeth wedi bod gyda’r penderfyniad a wnaed ynghylch Ysgol Y Graig.  Dechreuodd yr ymgynghori ar Ysgol Y Graig yn 2011 a, phetai cytuno wedi bod ar y defnydd o’r caeau chwarae yno, byddai hynny wedi gadael y gymuned â maes rygbi maint ¾. Fodd bynnag, roedd dal rhaid i ni gyfaddawdu, gan golli’r gwagle gwyrdd ar gyfer ffordd a maes parcio.

“Deallwn fod teimladau’n gryf o du’r preswylwyr, ond gallwn dawelu eu meddyliau drwy ddweud bod datblygiad yr ysgol Gatholig wedi cael ei ystyried o bob ongl, ac rydym o’r farn y bydd yr opsiynau cyfredol yn darparu cyfleuster ffantastig i’n plant ac i’r gymuned hefyd.”

 

 

 

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni