Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad ar ein sefyllfa ariannol gan y Cynghorydd Andrew Barry

  • Categorïau : Press Release , Council , Corporate
  • 26 Hyd 2022
Andrew Barry £13M Funding Gap Graphic English

Dros y misoedd ac wythnosau diwethaf mae’r wlad wedi wynebu helbul economaidd. Dyma’r arwyddion cynnar;

Mae’r Cyngor, fel pob pob Cyngor yng Nghymru yn wynebu pwysau ariannol digynsail dros y flwyddyn nesaf, a theimlais ei bod yn bwysig cyfleu'r wybodaeth hon ar yr adeg gynharaf posib.

Y rheswm? Mae’r dangosyddion yn nodi y bydd y setliad ariannol y byddwn yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn un gwael, oherwydd y setliad gwael maent yn ei dderbyn o’r Llywodraeth Ganolog.

Rydym yn edrych ar ddiffyg cyllid gyda £13m yn brin.

Mae’r helbul dyddiol rydym yn ei weld ar y teledu yn ein rhoi mewn sefyllfa lle mae rhaid i ni ddod o hyd i arian i lenwi’r blwch, neu leihau ein gwasanaethau am na allwn ei fforddio.

Fe wnawn bopeth yn ein gallu i geisio lleihau'r bwlch ariannol a pharhau i ddarparu’r gwasanaethau hynny i chi.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi troi diffyg cyllideb arfaethedig yn warged gwirioneddol trwy weithio mwy effeithlon a chymorth Llywodraeth Cymru. Rydym wedi bod yn ddoeth gyda’r gwarged a nawr fe fyddwn yn defnyddio'r arian wrth gefn- yr arian a roddwyd o’r neilltu at argyfwng-  i helpu llenwi’r bwlch, ond mae cyfyngiad ar faint o’n harian wrth gefn y gallwn ei ddefnyddio.

Byddwn hefyd yn edrych ar arbedion pellach ym mhob ardal wasanaeth. 

Yn ogystal â hyn, byddwn yn gofyn i chi, sut ydych chi’n blaenoriaethu gwasanaethau a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24.

Bydd incwm Treth y Cyngor yn cyfrannu at y diffyg ac yn helpu cyfrannu at leihau’r bwlch cyllido ymhellach.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar system Treth Cyngor tecach i leihau'r pwysau ar yr ail lefel Treth Cyngor uchaf yng Nghymru, ond nes i Lywodraeth Cymru newid y system rydym yn gaeth i’r system bresennol.

Am y flwyddyn nesaf, bydd cynnydd o 1% yn codi tua £259,000 y gallwn ei ddefnyddio ar wasanaethau. Mae hyn yn cyfateb i tua 23c yr wythnos yn y band eiddo isaf neu 33c yr wythnos i eiddo Band D.

Eich Bwrdeistref Sirol chi yw hwn ac mae angen i chi gael dweud eich dweud am y broses gwneud penderfyniadau a sut ydym yn gosod cyllideb y Cyngor dros y flwyddyn nesaf.

Bydd Aelodau’r Cabinet allan ar hyd y lle dros y misoedd nesaf yn sgwrsio am y penderfyniadau hyn yn ein Digwyddiadau Ymgynghoriad Cyllideb. Gallwch hefyd fynd at wefan y Cyngor a chwblhau arolwg ar-lein. Gellir derbyn copïau papur o’r arolwg o’r Ganolfan Ddinesig.

Byddaf yn eich diweddaru pan fydd mwy o wybodaeth gennym.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni