Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad ynglŷn a gwasanaethau bysiau ym Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Gor 2022
Bus station

Yn dilyn datganiadau diweddar a wnaed gan Dawn Bowden AS ynghylch gwasanaethau bysiau ym Merthyr Tudful, hoffem atgoffa trigolion bod mwyafrif helaeth y rhwydwaith gwasanaethau bysiau lleol yn cael ei redeg ar sail fasnachol yn unig gan weithredwyr bysiau ac felly nid oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros sut mae hyn yn gweithredu a bod yr holl benderfyniadau ar y gwasanaethau yn cael eu gwneud ar sail ariannol gan y gweithredwr. Darperir grant gwasanaethau bws blynyddol i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, sydd ond yn ariannu nifer fach iawn o wasanaethau angenrheidiol i ardaloedd anghysbell.

Mae’r tarfu diweddar ar wasanaethau a chansladau ar rwydweithiau bysiau, yn lleol ac ar draws y rhanbarth, wedi’u priodoli gan weithredwyr bysiau i argaeledd gyrwyr ac effaith barhaus Covid 19.

Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r Gymdeithas Drafnidiaeth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth bysiau newydd. Bydd hyn yn ceisio caniatáu creu system newydd o fasnachfreinio bysiau i ddarparu model mwy cynhwysfawr a chynaliadwy.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni