Ar-lein, Mae'n arbed amser
Her Darllenyr Haf 2023
- Categorïau : Press Release
- 28 Meh 2023
📚🚀 Diolch i ysgolion Goetre, Troedyrhiw, a Choed Y Dderwen a fynychodd y digwyddiad llythrennedd ym #MerthyrTudful ar Fehefin 21 gan greu dyfodol gwell trwy lythrennedd.
📖 Roedd y digwyddiad yn nodi cychwyn Her Ddarllen yr Haf sy’n cychwyn ar Orffennaf 8 hyd Fedi 23 ar gyfer plant 4-11 oed.
🌞 Peidiwch golli allan! Ewch i’ch llyfrgell leol yn Nowlais, Canol y Dref, Aberfan neu Drelewis i gofrestru a chychwyn eich antur darllen chi.
📚 Ydych chi’n barod i foddi mewn straeon sy’n hudo, llyfrau llafar, comics neu archwilio’r diweddaraf yn y papurau newydd? Mae rhywbeth yma at ddant pawb!
🏆 Ewch amdani: darllen chwe llyfr o’r llyfrgell yn ystod Her Darllen yr Haf.
🌟Mae’n gyfle gwych i ehangu’ch gorwelion, rhyddhau’r dychymyg ac ennill gwobrwyon gwych.
💳 Peidiwch boeni am y gost! Mae Her Darllen yr Haf yn rhad ac am ddim. Felly os oes gennych gerdyn llyfrgell, ymunwch nawr a dechrau’r daith!
📢 Ar eich marciau, barod, darllenwch!
📚📆 #HerDarllenyrHaf