Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cefnogi pobl o Wcráin sy’n ffoi o ryfel.

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 29 Maw 2022
Merthyr Tydfil CBC Logo

Mae’r Cyngor yn rhoi gwybod i breswylwyr Merthyr Tudful sut gallant gefnogi ceiswyr lloches o Wcráin fel rhan o Gynllun Cartrefi i Wcráin.

Ar wefan y Cyngor, mae adran yn esbonio sut gallwch ddod yn noddwr, fel unigolyn neu fel sefydliad a sut i gofrestru eich diddordeb yn y rhaglen.

Mae CBSMT eisiau sicrhau bod preswylwyr yn gwybod pob manylyn am y cynllun ar gefnogaeth sydd ar gael. Mae’n bwysig bod preswylwyr yn gwybod y cyfrifoldebau o dderbyn ceiswyr lloches, ond hefyd y boddhad o gefnogi unigolion sydd a dim dewis ond ffoi o’i gwlad oherwydd rhyfel.

Nododd Pennaeth Adfywio a Thai, Chris Long: “Mae’r digwyddiadau echrydus yn Wcráin wedi cael effaith arnom i gyd. Mae cymunedau Merthyr Tudful wastad gydag enw da am gefnogi pobl mewn angen. Mae’r sefyllfa yn Wcráin yn golygu y gwnawn ni bopeth yn ein gallu i gynnig y gefnogaeth angenrheidiol sydd ei angen. Rydym eisiau gwneud popeth gallwn fel bod y teuluoedd hyn yn gallu dechrau bywyd newydd yng Nghymru, a thrwy gydweithio gyda’n partneriaid gallwn gyflawni hyn.”

I ddarganfod mwy am y cynllun, ewch at: https://www.merthyr.gov.uk/resident/crime-safety-and-emergencies/support-for-ukraine/?lang=en-GB&

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni