Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y pwll nofio i ailagor yn y gaeaf

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Maw 2022
Merthyr Tydfil Leisure Centre

Bydd y pwll nofio yng |Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful yn ail agor yn nes ymlaen yn y flwyddyn, yn dilyn cais am gefnogaeth costau ailddatblygu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gweithio gyda’r datblygwr cyfleusterau hamdden ryngwladol Alliance Leisure a Capita i ailgynllunio'r pwll gyda chynlluniau digarboneiddio yn amlwg yn y pecyn cyllid ar gyfer y gwaith adnewyddu £3.2m.

Bydd Contractwyr ar y safle yn fuan i gychwyn ar y gwaith, gyda’r ddarpariaeth ar agor yn y gaeaf.

Bydd y cynllun yn cynnwys cadw’r prif bwll a’r pwll dysgwyr, darparu pwll hamdden newydd a gwaith ar yr ystafelloedd newid.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor y Cyng. Lisa Mytton: “Yn amlwg, fel gweddill ein preswylwyr, rydym eisiau gweld y pyllau yn ailagor. Mae’r gost, sy’n gorfod cynnwys targedau digarboneiddio Llywodraeth Cymru yn enfawr, a bydd rhaid chwilio am gyllid i dalu am y gwaith.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni