Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tracio datblygiadau y pwll nofio ar safle micro

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Mai 2023
Swimming pools progress tracked on microsite

Mae safle micro wedi ei lansio gan Lles@Merthyr a’r Cyngor Bwrdeistref Sirol er mwyn diweddaru preswylwyr am ail ddatblygu cyfleusterau pwll nofio yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful.

Bydd y dudalen ar wefan y Cyngor a Lles@Merthyr yn cynnwys gwybodaeth am brisiau ac aelodaeth a fydd ar gael yn y ganolfan a diweddariadau am y sefyllfa adeiladu ddiweddaraf yn y pwll nofio. Ewch i: http://merthyrleisuredevelopments.co.uk/

Mae’r gwaith yn mynd rhagddi yn dda, gyda’r gobaith o’i gwblhau yn yr Hydref gyda’r cyfleusterau newydd yn cynwys prif bwll chwe lon a phwll dysgu benodol gyda rhaglen ddysgu nofio lawn.

Bydd hefyd bwll sblash, wedi ei gynllunio i ddatblygu hyder plant ifanc yn y dwr, a bydd y cyfleusterau newid yn cael eu diweddaru a’i hailgynllunio.

“Mae dysgu nofio yn sgil bywyd hanfodol sy’n gwella iechyd meddwl a lles pobl,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor. “Mae ein preswylwyr wedi bod heb y cyfleuster nofio hwn ers gormod o amser oherwydd problemau strwythurol. Rydym yn falch iawn o allu mynd i’r afael â’r materion hyn i ddod â’r asedau cymunedol pwysig hyn yn ôl i ddefnydd cyhoeddus.”

Dywedodd Jane Sellwood, Prif Weithredwr Lles@Merthyr: “Ni allwn aros i groesawu nofwyr hen a newydd yn ôl i’r ganolfan. Mae wedi bod yn gyfnod anodd i’r holl staff, ond rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a’n cydweithwyr yno sydd wedi gweithio mor agos gyda ni i ymchwilio ac unioni’r problemau strwythurol a dod o hyd i gyllid.”

Bydd yr adnewyddiad yn cynnwys mesurau datgarboneiddio fel gosod pympiau gwres ffynhonnell aer mwy effeithlon yn lle boeleri tanwydd nwy, y rhagwelir y bydd yn torri allyriadau carbon 61 y cant ac yn creu dyfodol mwy cynaliadwy i’r ganolfan.

Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno gan yr arbenigwr datblygu hamdden Alliance Leisure drwy Fframwaith Hamdden y DU.

Dywedodd Gillian Dunster, Rheolwr Datblygu Busnes Alliance Leisure: “Bydd y gwaith hwn nid yn unig yn rhoi mynediad i bobl Merthyr Tudful i bwll lleol am y tro cyntaf ers pedair blynedd ond bydd hefyd yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei uchelgeisiau lleihau carbon er budd y gymuned. nawr ac yn y dyfodol.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni