Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pyllau nofio am gael eu hailddatblygu

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Medi 2021
Wellbeing@Merthyr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynllunio ailddatblygu pyllau nofio’r Ganolfan Hamdden a’r parc sglefrio gerllaw.

Mae datblygwr blaenllaw o ran cyfleusterau hamdden DU wedi bod yn asesu problemau gyda’r pyllau i gynhyrchu adroddiad dichonolrwydd yn cynnwys costau a fframiau amser. Bydd y Cyngor a rheolwr canolfan hamdden Wellbeing@Merthyr (Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tydfil) yn ymgynghori ȃ’r gymuned am y cynigion.

Caeodd y pyllau nofio ym mis Rhagfyr 2019 gan fod nifer fawr o deils y to wedi dod yn rhydd. Dros y tri mis dilynol, gwnaeth y Cyngor gomisiynu nifer o archwiliadau i mewn i achosion y broblem.

Yn ystod pandemig Covid ym mis Mawrth 2020, yn sgil cyfnodau clo cenedlaethol, gwahardd teithio diangen a ffyrlo i’r staff, roedd yn amhosibl cael arbenigwyr i ddod i Ferthyr Tudful i ymgymryd ag archwiliadau pellach. Yn ystod y cyfnod clo, cafodd problemau pellach eu darganfod - gan gynnwys bod set o’r teils yn dod yn rhydd o waelod y pwll dysgu nofio, gan ddynodi bod problemau strwythurol pellach.

Yn dilyn gwaith archwilio helaeth, hysbyswyd y Cyngor fod lleithder yn peri problem i isadeiledd yn concrid. O ganlyniad, roedd rhaid cael gwared ar yr holl deils o’r tri phwll a chael cyfnod hir o sychu allan gan ddefnyddio sychwyr diwydiannol dros gyfnod o dri i bedwar mis.

Ym mis Gorffennaf 2021, cytunwyd y byddai’r Cyngor yn arwain ar ailddatblygu’r pyllau a’r parc sglefrio. Cyflogwyd y cwmni arbenigol Alliance Leisure i gyflawni asesiad llawn o ardal yr ochr wlyb, gwresogi tanlawr, ystafelloedd newid a’r parc sglefrio.

Mae Alliance Leisure wedi archwilio problemau teils y pwll, isadeiledd concrid, ystafell beiriannau a’r parc sglefrio a byddant yn cyflwyno adroddiad dichonoldeb llawn cyn bo hir.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Lisa Mytton: “Yn anffodus, cafwyd problem ar ôl problem gyda’r pyllau nofio. Bu Alliance Leisure yn ymchwilio i’r peth ac mae atebion ganddynt i’r problemau.

“Rydym yn gweithio ȃ Wellbeing@Merthyr ac yn archwilio amrywiaeth o opsiynau ariannu sy’n cynnwys grantiau a benthyciadau ariannol. Byddwn yn gadael i bawb wybod cyn gynted ag y byddwn wedi cadarnhau’r rhain.”

Dywedodd Prif Weithredwr Wellbeing@Merthyr sef Jane Sellwood: “Rydym ni i gyd bellach yn obeithiol y bydd y broses yn cyflymu ac edrychwn ymlaen at gael cyfleusterau llawer gwell yn y pen draw.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni