Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cau ffordd yr A4102 ar Stryd Bethesda dros dro am 5 noson o Ebrill 4ydd 2022
- Categorïau : Press Release
- 01 Ebr 2022
Mae Griffiths wedi bod yn gwneud gwaith Gwelliannau Teithio Llesol i’r A4102 ar Stryd Bethesda ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a bydd y gwaith terfynol o osod arwyneb newydd a marcio llinellau gwyn ar y ffordd yn digwydd yr wythnos nesaf.
Er mwyn cyflawni’r gwaith, bydd ffordd yr A4102 ar stryd Bethesda rhwng y goleuadau traffig ar Avenue de Clichy/ Rhes y Chwarel a goleuadau traffig Ffordd Cyfarthfa ar gau dros 5 noson yn dechrau ddydd Llun Ebrill 4ydd 2022 rhwng 18:00 a 06:00.
Bydd mynediad i Lannau’r Capel ar nosweithiau'r 4ydd a’r 5ed, ond ar nosweithiau’r 6ed, 7fed a’r 8fed, mae’n bosib bydd cyfyngiad i gerbydau oherwydd gosod tarmac. Os oes angen gwneud teithiau yn ystod y nosweithiau hyn, cynghorwn gerbydau gael ei gadael tu allan i’r ardal hon cyn 20:00 hours. Bydd gweithwyr rheolaeth traffig bob pen i’r ardal gau i roi cyfarwyddyd. Bydd mynediad i gerddwyr a cherbydau’r gwasanaethau brys bob amser. Mae’n bosib y bydd peth sŵn ac mae’r gwaith yn dibynnu ar y tywydd.
Bydd llwybr amgen mewn lle yn ystod y gwaith.