Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y digwyddiad Shwmae Su’mae yn llwyddiant ym Mharc Cyfarthfa a Chanolfan Gymunedol Aber-fan

  • Categorïau : Press Release , Schools
  • 19 Hyd 2021
Mr Urdd

Yn ddiweddar, cresawyd digwyddiad blynyddol Shwmae Su’mae i Barc Cyfarthfa a Chanolfan Gymunedol Aberfan.

Fel rhan o’r dathliadau, cafwyd perfformiadau cerddorol gan Ysgolion Cynradd Parc Cyfarthfa, Troedyrhiw ac Abercanaid. Cafwyd hefyd unawd gan ddisgybl o Ysgol Gyfun Rhydywaun. Ar y Dydd Sul, cyfranogodd disgyblion o Ysgol Gynradd Coed y Dderwen mewn gemau parasiwt Cymraeg ar gyfer aelodau o’r cyhoedd.

Cafw yng Nghanolfan Gymunedol Aber-fan gan Gôr Meibion Ynysowen yng Nghanolfan Gymunedol Aber-fan a pherfformiad offerynnol gwych gan y delynores, Catrin Meek sydd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful. Roedd disgybl o Ysgol Pen y Dre yno ar y bore Sadwrn yn cefnogi Mistar Urdd. Cafwyd hefyd ymweliadau gan Seren a Sbarc a Sali Mali ar y Dydd Sadwrn a’r  Dydd Sul. 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Eiriolydd yr Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Roedd y ddau ddiwrnod yn ddathliad gwych o’r iaith Gymraeg ac roedd yn hyfryd i glywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn ystod y digwyddiadau – enghraifft wych o #Shwmaeronment”

Cafwyd cefnogaeth gan Dysgu Cymraeg Morgannwg, Mudiad Ysgolion Meithrin, Cylch Meithrin Pentrebach, Rhieni Dros Addysg Gymraeg, RHAG, Adran Addysg Gynnar Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Choleg Merthyr yn ogystal â busnesau yn yr iaith Gymraeg, yn lleol ac yn  genedlaethol.

Cafwyd ymweliadau yn ogystal gan Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghroydd Malcolm Colbran, Dawn Bowden AS, Gerald Jones, yr  Aelod Seneddol lleol a Jeff Edwards, Uchel Siryf Morgannwg.

Esboniodd Sue walker, y Prif Swyddog Addysg: “Roedd y ddau ddigwyddiad yn gyfle i arddangos y defnydd o’r Gymraeg ledled y Fwrdeistref Sirol a hefyd, cefnogi uchelgais strategaeth newydd yr Iaith Gymraeg a’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Llawer o ddiolch i’n partneriaid am gefnogi’r digwyddiadau ac i Lles Merthyr.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni