Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn lansio ‘Recite Me’ gan wneud ei gwefan yn fwy hygyrch i breswylwyr
- Categorïau : Press Release , Council , Corporate
- 09 Awst 2022
Yr wythnos hon mae’r Cyngor wedi cyflwyno bar offer y gallwch weld ar y wefan, o’r enw ‘Recite me’ gyda’r bwriad o wneud y testun yn haws ei ddarllen, ei glywed a’i ddeall.
Mae’r bar offer Recite Me yn helpu pobl i gael mynediad at wefan yr awdurdod a chyflawni'r hyn maent am ei wneud, fel dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau’r cyngor.
Gallwch ddefnyddio'r bar testun Recite Me i:
- Gael y testun ar ein gwefan wedi ei darllen yn uchel (yn cynnwys y rhan fwyaf o PDFau)
- Lawr lwytho’r testun fel ffeil MP3 i’w chwarae pan yn gyfleus i chi
- Newid maint a lliw testun
- Addasu’r lliw cefndir
Gellir lansio’r bar testun drwy glicio ar ddolen ‘Accessibility Tools’ ar y pennyn (header) ar bob tudalen o’r wefan. Ar ôl clicio’r botwm, bydd y bar offer Recite Me yn agor ac yn rhoi'r gwahanol opsiynau ar gyfer addasu sut mae’r wefan yn edrych, yn cynnwys sut rydych yn cael mynediad at y cynnwys.
Ym mis Gorffennaf, gosodwyd gwefan Cyngor Merthyr yn gydradd 1af o holl wefannau Cynghorau'r DU o ran hygyrchedd: Accessibility of UK Council Websites - Silktide Index
Dwedodd llefarydd ar ran y cyngor “Gyda chyflwyniad y meddalwedd soffistigedig hwn, gall preswylwyr gydag anableddau a defnyddwyr heb anabledd gael yr un profiad gyda chynnyrch digidol. Efallai bod gan rai defnyddwyr nam ar y llygaid, anawsterau symud, anawsterau gwybyddol, anabledd dysgu, yn fyddar neu gydag anawsterau clyw. Mae felly yn bwysig bod ein gwefan, ei chynnwys a dogfennau yn gweithio ar gyfer pawb. Mae’n hanfodol i barhau i weithio tuag at hygyrchedd digidol wrth gynhyrchu gwybodaeth ar dudalennau a dogfennau ar gyfer ein gwefan ac is wefannau, gan gynnwys pawb ar ein taith.”
Mwy o wybodaeth fan hyn: Recite Me | Merthyr Tydfil County Borough Council