Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymateb y Cyngor i Setliad Cyllideb Llywodraeth Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Rhag 2023
default.jpg

Fel pob Cyngor arall ar draws y wlad, rydym yn parhau i wynebu cyfnod ansicr. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae Cynghorau wedi cael toriadau yn y gyllideb sydd wedi achosi iddynt ei chael yn anodd mantoli cyllidebau tra'n cynnal gwasanaethau hanfodol.

Nid yw eleni’n ddim gwahanol, gyda setliad cyllideb o 3.4% wedi’i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru at Rhagfyr 20fed 2023.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Er bod y setliad hwn ychydig yn fwy na’r 3.1% a ragamcanwyd, mae hyn yn dal i adael bwlch ariannu o £13m ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25.

“Mae Swyddogion y Cyngor wedi bod yn gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf i nodi arbedion ar draws y sefydliad i gau’r bwlch ariannu hwn, a byddwn yn parhau i archwilio pob opsiwn i ganfod arbedion pellach i fantoli’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni