Ar-lein, Mae'n arbed amser

Does dim yn artiffisial am ddeallusrwydd yn Nhroedyrhiw wrth i ddisgyblion ddysgu am roboteg

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 05 Gor 2022
Picture2

Mae disgyblion yn ysgol gynradd Troedyrhiw wedi bod yn gweithio ar ddatblygu sgiliau peirianneg a chyfrifiaduron gan adeiladu a chreu robotiaid. Sgiliau pwysig gan y bydd y dyfodol yn gweld bodau dynol yn byw a gweithio ochr yn ochr â deallusrwydd artiffisial.

Mae’r gwersi wythnosol dwy awr yn rhan o SAA, Sgiliau a Amlygir mewn Addysg sy’n ffocysu ar ddysgu trwy bynciau Gwyddoniaeth, Mathemateg a Thechnoleg. Mae’r disgyblion wedi datblygu sgiliau technegol yn adeiladu robotiaid gyda Lego a ddarparwyd gan Ganolfan Addysg Eden; gan raglennu a rheoli dyfeisiau a reolir trwy iPad. Mae’r disgyblion wedi gwneud hyn trwy godio’r robotiaid i fod â swyddogaethau cyferbyniol, fel synhwyro, meddwl a llywio o amgylch cwrs rhwystrau.

Mae Rebecca Evans, dirprwy bennaeth Troedyrhiw wedi bod yn gweithio ar gyflwyno cwricwlwm modern a blaengar i’r ysgol a dwedodd, “Mae wedi dod yn amlwg y bydd y dyfodol yn cynnwys robotiaid, felly mae cael y disgyblion i gydweithio ar adeiladu a deall am robotiaid yn rhywbeth o bwys, fel ei bod yn gallu addasu i fyd sy’n newid a pharatoi at y dyfodol, mewn bywyd a gwaith.. Dechreuodd hyn o gyflwyno menter SAA I’r ysgol, ble credwn ei bod yn bwysig bod disgyblion yn cael y cyfle i ddewis ystod o weithgareddau creadigol er mwyn datblygu a gwella ei sgiliau. Sgiliau sydd tu hwnt i’r academaidd ond sy’n dangos sut maent yn gallu addasi i sefyllfaoedd dysgu gwahanol.”

Dwedodd Michelle Jones, yr aelod Cabinet dros addysg, "Un o ddeilliannau ein strategaeth Codi Dyheadau Codi Safonau yw bod plant yn cael profiadau addysgol sy’n cyffroi ac ysgogi dysgu a llwyddo. Mae’r project yma yn sicr yn gwneud hyn ac er bod deallusrwydd artiffisial yn rhywbeth estron i lawer, bydd yn rhan fwy mwy cyfarwydd i fywydau ein pobl ifanc yn y dyfodol.”

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni