Ar-lein, Mae'n arbed amser

Canol y dref yn lle mwy diogel ar ôl gwariant o £500,000 ar ddiogelwch

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Hyd 2021
Safer Streets

Mae diogelwch yn ganol tref Merthyr Tudful yn awr wedi gwella oherwydd ymdrechion y Cyngor a Heddlu De Cymru i sicrhau fod preswylwyr yn teimlo’n fwy diogel trwy gydol y dydd a’r nos.

Mae camerâu CCTV modern wedi eu gosod ynghanol y dref, mae’r meysydd parcio yn fwy diogel yn sgil gosod gwell goleuadau ac mae gatiau wedi eu gosod ar lonydd lle y cafwyd problemau â chyffuriau, yfed a thipio anghyfreithlon.

Derbyniodd ‘Prosiect Penderyn’ dros £500,000 gan Gronfa Strydoedd mwy Diogel y Swyddfa Gartref sydd yn cael ei redeg ledled Lloegr a Chymru er mwyn cefnogi mentrau i rwystro trosedd rhag effeithio ar y gymuned.

Sicrhawyd y cyllid wedi cynnig llwyddiannus, ar y cyd gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol, Heddlu De Cymru, Alun Michael, Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Merthyr Tudful.

“Cafodd Prosiect Penderyn ei ddatblygu yn sgil derbyn canlyniadau arolwg i breswylwyr a gynhaliwyd y llynedd a oedd yn gofyn am eu safbwyntiau ynghylch lefel y troseddau ynghanol y dref,” meddai’r Cynghorydd Kevin O’Neill, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd.  

“Caniataodd yr arolwg i ni gael gwell dealltwriaeth o’r problemau sydd yn effeithio ar weithgareddau beunyddiol ein preswylwyr.”

“Yn dilyn eu pryderon, llwyddwyd i wneud cais llwyddiannus am arian ac yn awr mae gennym gamerâu CCTV sefydlog a symudol yn eu lle er mwyn monitro canol y dref, drwy’r dydd.

“Drwy weithio â Heddlu De Cymru, tîm diogelwch canol y dref ac Adran Diogelwch Cymunedol y Cyngor, gallwn ddechrau mynd i’r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch diogelwch yn ardal ganol y dref.”  

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni