Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hyb Canol y Dref ymlith y gorau yng Ngwobrau Ystadau Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Rhag 2023
Ystadau Cymru Award 2023 pic

Llongyfarchiadau i’r Hyb a gyhoeddwyd yn ddiweddar i fod ymhlith y gorau yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2023. Mae’n wobr sydd yn dathlu rheolaeth gydweithredol, lwyddiannus ledled y sector gyhoeddus yng Nghymru. 

Mae’r Hyb yn gydweithrediad o wasanaethau cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac wedi’i gynllunio i gyflawni anghenion tai ar gam cynnar er mwyn diogelu pobl rhag gyrraedd pwynt o argyfwng. 

Mae llawer o resymau pam fod pobl yn dyfod yn ddigartref ac yn aml, mae’r rhesymau’n dechrau cyn ôl-daliadau rhent neu dderbyn gorchymyn troi allan. Mae’r Hyb yn gweithio i gynorthwyo unigolion i ymdrin â phrif achosion digartrefedd cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfyngus drwy weithio mewn modd greadigol a holistig sydd wedi’i hysbysu gan drawma. Cyflawnwyd hyn drwy gydweithrediad dau wasanaeth: Tai a Chyflogadwyedd.

Diolch i arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredinol Llywodraeth Ganolog ac arian ychwanegol Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru, mae Hyb mwy o faint yn awr wedi’i leoli yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful sydd yn croesawu’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Tîm Budd-daliadau er mwyn gwella sgiliau a grymuso annibyniaeth ymhlith y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Tai a Diogelu’r Cyhoedd: “Diolch i ymroddiad a gwaith caled holl aelodau’r staff, maent wedi datblygu gwasanaeth blaengar gwych er mwyn cynorthwyo’r gymuned. 

“Mae’r Hyb wedi’i leoli yng nghanol y dref felly rydym yn gobeithio y bydd y lleoliad newydd yn caniatáu i ragor o bobl alw draw er mwyn cwrdd â’n staff gwybodus a charedig.”

“Os ydych yn teimlo fod angen cymorth, cyngor neu ganllawiau arnoch neu eich bod yn edrych am gyfleoedd hyfforddi i ymgysylltu â hwy, galwch draw!”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni