Ar-lein, Mae'n arbed amser
Menter Wardeniaid Canol y Dref yn gwella tir eglwys yn lleol
- Categorïau : Press Release
- 12 Rhag 2023

Roedd Eglwys Dewi Sant yn ddiolchgar i dderbyn cymorth i adfer ei chwrt a’i gardd yn ddiweddar a hynny yn sgil cymorth gan Wardeniaid Tref CBS Merthyr ac aelodau o’r gymuned.
Wrth iddynt fynd ar batról yn ystod y dref yn ystod y misoedd diwethaf, derbyniodd Wardeniaid Canol y Dref sydd yn cael eu hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredinol (CFfG) adroddiadau fod ymddygiad gwrth-gymdeithasol ar droed ar dir yr eglwys.
Yn anffodus, mae’r tir yn gyrchfan i ddefnyddwyr cyffuriau ac alcohol ac yn ardal lle y mae sbwriel yn cael ei adael sydd yn rhywbeth y mae pob un ohonom am ei weld yn dod i ben. Roedd hwn yn gyfle gwych i’n Wardeniaid ddirwyn yr arfer i ben.
Bu ymgysylltiad ag aelodau o’r gymuned; rhai ohonynt a oedd yn ymgynnull yn rheolaidd ar dir yr eglwys a gofynnwyd iddynt wneud newid cadarnhaol. Bu cydweithio i glirio’r llystyfiant a’r chwyn gan wella’r safle ar gyfer yr eglwys.
Dywedodd Huw Wilson, Arweinydd Tîm y Wardeniaid Cymunedol:
“Rydym wedi gwrando ar rwystredigaeth y gymuned ynghylch yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol ynghanol ein tref. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, rydym wedi penderfynu ymgysylltu â rhai o’r unigolion gan roi cyfle iddynt glirio’r llystyfiant sydd wrth gefn yr eglwys a’r neuadd gymunedol. Roedd hwn yn gyfle gwych i ni roi rhwybeth yn ôl i’r eglwys wedi’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol a’n galluogi i ganolbwyntio ar rywbeth cadarnhaol.
“Drwy ymgysylltu â’r unigolion, roedd fodd i ni weithio mewn partneriaeth er mwyn clirio’r cwrt ac mae’r safle yn awr wedi’i drawsnewid yn ardal y gall neuadd yr eglwys wneud defnydd ohoni ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd:
“Hoffwn ddatgan fy ngwerthfawrogiad a diolch i Wardeniaid ysbrydoledig Canol y Dref. Bydd eu creadigrwydd a’u cydweithio mewn partneriaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r eglwys ac mae’n gam mawr ymlaen er mwyn lleihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y dref yn ogystal â chydweithio â’n cymunedau i wneud gwelliannau parhaol.”