Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Troedyrhiw yn dathlu ennill gwobr Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg am yr ail waith yn olynol!
- Categorïau : Press Release
- 20 Maw 2023
Mae’r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg wedi cyhoeddi mai Ysgol Gynradd Gymunedol Treod-y-Rhiw yw’r 24ain ysgol yng Nghymru a 156ed ysgol yn gyffredinol, i gael ei hardystio am yr ail dro yn olynol gyda Gwobr Her y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg.
Cyflwynwyd y wobr mewn cydnabyddiaeth o ymrwymiad yr ysgol gyfan i gynnig darpariaeth o safon uchel i’r disgyblion mwyaf disglair a thalentog, o fewn cyd-destun o herio pawb.
Dwedodd Rob Lightfoot, PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL Y GYMDEITHAS GENEDLAETHOL AR GYFER PLANT ABL MEWN ADDYSG, “Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Troed-y-Rhiw wedi gweithio’n galed i ennill ardystiad unwaith eto drwy Wobr Her y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg. Mae’r ysgol wedi dangos ymrwymiad parhaus i ddatblygu awyrgylch sy’n galluogi pob disgybl i gael eu herio a’u cefnogi yn y modd orau posib.”
Mae’r wobr yn seiliedig ar Fframwaith Herio’r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg, sydd yn gosod meini prawf ar gyfer darpariaeth o safon uchel i’r disgyblion mwyaf disglair a thalentog o fewn ethos ehangach o herio pawb. Mae’r fframwaith ar gael fel rhan o Raglen Datblygu Her y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg – ystod o adnoddau, a ddatblygwyd gan y Gymdeithas er mwyn helpu ysgolion i werthuso a gwella eu darpariaeth i’r disgyblion mwyaf galluog.
Er mwyn ennill Gwobr Her, mae’n rhaid i ysgolion gwblhau hunanwerthusiad manwl gan ddefnyddio Fframwaith Herio’r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg, cyflwyno portffolio o dystiolaeth gefnogol, ac ymgymryd ag asesiad gan un o aelodau cyswllt y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg. Mae’r broses asesu’n cynnwys archwiliad o ddata’r ysgol a dogfennau allweddol; arsylwi ar wersi; a chyfweliadau gydag arweinwyr yr ysgol, dysgwyr, rhieni a llywodraethwyr.
Dwedodd Rob Lightfoot, y Prif Swyddog Gweithredol, “Cyflwynir y Wobr Her mewn cydnabyddiaeth o ymrwymiad yr ysgol gyfan ac i lwyddiant mewn darparu heriau a chefnogaeth effeithlon i bawb – yn cynnwys arweinyddiaeth yr ysgol, y cwricwlwm, dysgu ac addysgu, prosesau adnabod ac olrhain, cyfleoedd allgyrsiol, cyfathrebiad glir a phartneriaethau, a phroses o werthuso parhaus.”
Bydd Ysgol Gynradd Gymunedol Troed-y-Rhiw nawr yn aros yn rhan o’r gymuned ryngwladol o ysgolion sydd wedi eu hardystio gyda’r Wobr Her ac sydd wedi dangos ymrwymiad parhaus ac effeithlon tuag at ymateb i anghenion y dysgwyr mwyaf disglair a thalentog, ac sydd â diddordeb mewn rhannu eu harbenigedd er budd y gymuned addysg ehangach.
Dwedodd y Pennaeth Jacqui Roome, “Rydym uwch ben ein digon ac yn falch iawn o gael ein hardystio am yr ail waith ar gyfer Gwobr Her fawreddog y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg. Dyma ddilysiad allanol o’r strategaethau ysgol-gyfan effeithlon ac o safon uchel sydd gennym yn yr ysgol er mwyn herio pob un o’n dysgwyr. Rydym yn byw a bod arwyddair ein hysgol sef ‘Credwch, Cyflawnwch, a Disgleiriwch yn Loyw’. Fel cymuned, rydym oll yn credu bod gan bob plentyn ac oedolyn o fewn ein hysgol gryfder. Ein rôl ni yw adnabod a meithrin y cryfderau hyn. Mae ein cwricwlwm yn cefnogi’n llawn heriau mewn pynciau academaidd a hefyd yn creu profiadau dysgu a chyfleodd i ddisgyblion ac oedolion i ddod o hyd i, a datblygu talentau mewn meysydd eraill.”