Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trowch eich tŷ yn gartref gyda benthyciadau di-log

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Medi 2019
Home Improvement Loan pic

Ydych chi’n berchen ar eiddo ym Merthyr Tudful? Oeddech chi gwybod y gallech gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau iddo? 

Mae dau fath o fenthyciad di-log gall y Cyngor eich helpu i wneud cais amdano:

Benthyciad Troi Tai’n Gartrefi

Mae’r cynllun hwn a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn darparu benthyciadau di-log o hyd at £25,000 am bob uned (hyd at fwyafswm o £250,000) i berchnogion eiddo gwag (gwag am o leiaf 6 mis) i gynorthwyo gyda chostau atgyweirio ac ailwampio.

Mae’r gwaith a ganiateir yn cynnwys: 

  • Adnewyddu annedd i safon resymol, yn rhydd o unrhyw beryglon difrifol (o leiaf), fel ei fod yn addas ar gyfer byw ynddo ar unwaith, boed drwy fod ar werth (benthyg i werthu) neu brydlesu (benthyg i brydlesu). Rhaid i’r eiddo fod wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis
  • Trosi eiddo gwag neu adeilad masnachol yn un neu ragor o unedau i Safon Troi Tai’n Gartrefi (o leiaf), fel ei fod yn addas ar gyfer byw ynddo ar unwaith, boed drwy fod ar werth (benthyg i werthu) neu i’w brydlesu (benthyg i brydlesu)
  • Gallai personau sy’n gwneud cais am y benthyciadau uchod fod un ai’n berchnogion cyfredol neu arfaethedig, ond yn y ddau achos rhaid eu bod yn gallu darparu sicrwydd i’r benthyciad. Rhaid bod yr eiddo wedi bod yn enw’r ymgeiswyr cyn bod y benthyciad yn gallu cael ei gymeradwyo.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Rhaglen Benthyciadau ar 01685 725289.

Benthyciad Gwella’r Cartref

Mae’r cynllun hwn a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru’n darparu benthyciad di-log o £1,000 i £25,000 am bob uned i ddeiliaid-berchnogion, landlordiaid a buddsoddwyr i gynorthwyo â chostau atgyweirio ac ailwampio.

Mae gwaith a ganiateir yn cynnwys:

  • Unrhyw waith sy’n gwneud eiddo preswyl yn saff, yn gynnes a/neu’n ddiogel, gallai enghreifftiau gynnwys uwchraddio boiler/system gwres canolog, ffenestri newydd neu gwrs gwrthleithder
  • Trosi eiddo masnachol (neu arall) yn annedd domestig

Cymhwysedd:

  • Rhaid i ymgeisydd/ymgeiswyr fod dros 18 + oed
  • Rhaid i bob perchennog eiddo sy’n amodol ar Waith – fod yn ymgeisydd
  • Rhaid i ymgeiswyr lwyddo mewn asesiad fforddiadwyedd (ble y caiff Gwybodaeth Cyfradd Credyd a ffactorau eraill eu defnyddio)

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Rhaglen Benthyciadau ar 01685 725289

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau