Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dwy Siop Stryd Fawr wedi derbyn dirwyon am werthu sigaréts anghyfreithlon
- Categorïau : Press Release
- 14 Hyd 2024

Mae dwy siop yng nghanol y dref wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr am werthu fêps i fachgen 15 oed ym Merthyr Tudful. Roedd un o'r busnesau hefyd yn gwerthu fêp nad oedd yn cydymffurfio â Rheoliadau'r DU.
Methodd Omed FARAJ o Cloud Vapes, Pontmorlais, Merthyr Tudful, â dod i Lys Ynadon Merthyr ar Hydref 2il 2024 a chlywyd yr achos, a ddygwyd gan Dîm Safonau Masnach yr awdurdod lleol, yn ei absenoldeb. Roedd hyn yn ymwneud â throsedd o dan Reoliadau Cynhyrchion Mewnanadlu Nicotin (Oed Gwerthu a Phrynu Dirprwy) 2015.
Clywodd y Llys sut y prynodd y bachgen 15 oed fêp gan Cloud Vapes ar Chwefror 16eg 2024 ac na ofynnwyd i'r bachgen gynhyrchu unrhyw adnabyddiaeth i brofi ei fod dros 18 oed. Oherwydd nad oedd Faraj wedi ymddangos cafodd yr ynadon ef yn euog yn ei absenoldeb.
Cafodd Faraj orchymyn i dalu £2,508 am ei droseddau.
Plediodd Merthyr Tudful Barbers Ltd. yn masnachu fel Istanbul Barbers, hefyd o Bontmorlais, Merthyr Tudful yn euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar Hydref 9fed 2024, i droseddau o werthu fêp anghyfreithlon a gwerthu fêp i fachgen 15 oed. Unwaith eto mae hyn yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Safonau Masnach CBS Merthyr Tudful.
Clywodd y llys sut y prynodd y bachgen 15 oed fêp dros gapasiti, sy'n anghyfreithlon yn y DU, a sut na wnaeth y person gwerthu gynnal unrhyw wiriadau ar oedran y bachgen.
Fe wnaeth Neil Thomas, Barnwr Rhanbarth, basio dedfryd o ddirwy a chostau o £2,094.90.
Dywedodd Mr Thomas yn ei gasgliad bod "y Llys yn cymryd materion o'r fath o ddifrif, yn enwedig gwerthu sigaréts electronig i blant".
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Scriven, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd: "Mae peryglon pobl ifanc yn fêpio yn bryder cenedlaethol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo'n llwyr i amddiffyn iechyd ein cymunedau, a sicrhau na all ein pobl ifanc gael mynediad at gynhyrchion nicotin caethiwus a pheryglus.
Mae'r erlyniadau llwyddiannus hyn yn enghraifft arall o sut y bydd ein Tîm Safonau Masnach, sydd ar y rheng flaen wrth reoleiddio gwerthu sigaréts yn anghyfreithlon, yn gweithredu yn erbyn y rhai sy'n peryglu iechyd ein pobl ifanc."
Dywedodd Craig Rushton, Arweinydd y Tîm Safonau Masnach "Mae angen i fusnesau a'u staff fod yn ymwybodol y gall methu â gofyn am ID dilys wrth werthu cynhyrchion â chyfyngiad oedran fel fêps arwain at ganlyniadau difrifol a allai arwain at ddirwyon sylweddol. Rhaid i fusnesau sicrhau bod y nwyddau maen nhw'n eu gwerthu yn gyfreithlon ac yn ddiogel."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am werthu fêps ac eitemau cyfyngedig eraill i blant neu am werthu e-sigaréts anghyfreithlon, rhowch wybod amdano drwy anfon e-bost at trading.standards@merthyr.gov.uk.