Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dau barc ar gau oherwydd fandaliaeth aml
- Categorïau : Press Release
- 11 Gor 2022

Mae maes chwarae’r Lleng ym Mhenyard a maes chwarae St John’s Grove ym Mhenydarren wedi dioddef fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych a chynyddol yn ystod y misoedd diwethaf, gan arwain at gau’r parciau er diogelwch defnyddwyr.
Mae poteli sydd wedi torri a lloriau diogelwch wedi’u rhwygo wedi bod yn broblem gyson y mae ein swyddogion parciau wedi gweithio’n galed i’w chlirio a’u hatgyweirio, fodd bynnag cyn gynted ag y maent yn cael eu trwsio mae’r fandaliaid yn taro deuddeg eto.
Mae penderfyniad anodd wedi'i wneud i gau'r ddau barc hyd nes y byddwn yn gallu dod i ateb i'w cadw'n ddiogel i bob defnyddiwr. Byddwn yn postio diweddariad pellach cyn gynted ag y bydd un ar gael.
Os gwelwch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn unrhyw le gallwch roi gwybod amdano drwy ffonio 101.