Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hyd at £500,000 ar gael i grwpiau cymunedol o gronfa Ffos-y-fran

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Gor 2022
Ffos-y-fran logo

Gall grwpiau cymunedol Merthyr Tudful wneud cais am hyd at £500,000 o gronfa a sefydlwyd i wella safon bywyd preswylwyr lleol.

Bydd Cynllun Grantiau Mawr Ffos-y-fran yn agor ar gyfer ceisiadau heddiw (Gorffennaf 1).

Mae grantiau rhwng £5,000 a £500,000 ar gael ar gyfer projectau sy’n helpu creu ‘economi gref, gynaliadwy ac amrywiol’, sy’n cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau newydd a chyfrannu at greu Merthyr Tudful yn lle mwy ‘ bywiog, atyniadol, diogel a chynaliadwy’ i fyw.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros adfywio a Thai'r Cyng. Geraint Thomas: “ Mae cyllid Ffos-y-fran yn parhau i gyfrannu’n fawr at safon bywyd preswylwyr a chymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.

“Rydym yn annog grwpiau sydd gyda chynlluniau ac sydd angen cymorth ariannol ddweud wrthym beth maent eisiau.”

Sefydlwyd Cynllun Grantiau Cymunedol Ffos-y-fran gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol ar y cyd gyda Merthyr (De Cymru) Cyf, sy’n cyfrannu  £1 am bob tunnel o lo a werthir o gynllun adfer tir Ffos-y-fran. Mae mwy na £8m wedi ei ddyfarnu i ystod o grwpiau ac achosion da ers i’r safle agor yn 2007.

Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau diweddaraf yw dydd Gwener Gorffennaf 29 am 4pm. Am fwy o wybodaeth neu ffurflen gais, cysylltwch gyda Chydlynydd Cronfa Buddiannau Ffos-y-fran ar 07563 398667 neu ffosyfran@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni