Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Diweddaraf ynghylch Pontsticill
- Categorïau : Press Release
- 19 Rhag 2024

Yn dilyn Storm Bert, cafwyd dau dirlithriad ym Mhontsticill. Yn ogystal â’r ddau dirlithriad, agorwyd ceudwll yn Nant Morlais ym Mhant ac nid oedd gennym unrhyw ddewis ond i ailgyfeirio ein hadnoddau er mwyn delio gyda’r argyfwng hwn.
Mae’r hewl i Bontsticill wedi ei thangloddio ac felly ni allwn agor yr hewl honno nes bod y gwaith wedi ei gwblhau. Rydym yn bwriadu cychwyn y gwaith yn ystod Ionawr 2025. Serch hynny, nid yw’n ddigymhlethtod oherwydd bod yn rhaid i ni gydweithio gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cwblhau’r gwaith yn llwyddiannus.
Mae’n ddrwg gennym am unrhyw drafferthion o ganlyniad i’r gwaith yn ystod y cyfnod hwn, ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a’ch amynedd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r diweddaraf, o ran y gwaith hwn, maes o law.