Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhybudd am y cynnydd mewn ‘tacsis’ anghyfreithlon
- Categorïau : Press Release
- 29 Medi 2022
Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu rhybuddio am y perygl o deithio mewn ‘tacsis’ anghyfreithlon yn dilyn adroddiadau am nifer ohonynt yng nghanol tref Merthyr Tydfil ar y penwythnosau.
Nid yw cerbydau heb eu trwyddedu wedi eu hasesu i fod yn ddiogel ac yn addas i gario teithwyr a gallent fod mewn cyflwr gwael sy’n golygu bod teithwyr mewn perygl.
“Mae Adran Drwyddedu'r Cyngor yn derbyn adroddiadau o gerbydau yn gweithredu fel tacsis anghyfreithlon gyda gyrwyr heb drwydded,” meddai’r Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch y Cyhoedd, Trosedd ac Anhrefn.
“Diben trwydded tacsis yw diogelu'r cyhoedd, a hoffem atgoffa preswylwyr ac ymwelwyr o beryglon mynd yn y cerbydau hyn,” ychwanegodd.
“Mae gan yrwyr gyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelwch teithwyr a rheolaeth gymharol am deithwyr - teithwyr sydd o bosib ar eu pen eu hun ac/ neu yn fregus.”
Mae pob gyrrwr trwyddedig a cherbyd wedi ei hasesu gan y Cyngor i sicrhau safonau derbyniol ac yn ddiogel ac addas i gario teithwyr.
Ni fydd gan gerbydau heb eu trwyddedu'r yswiriant cywir yn ei le ac ni fydd gyrwyr heb drwydded wedi derbyn gwiriadau diogelu i sicrhau eu bod yn addas i gario teithwyr a ddim yn berygl i’r cyhoedd.
Bydd gan gerbydau wedi eu trwyddedu gan y Cyngor sticeri ar y ddau ddrws blaen a phlât trwydded ar gefn y cerbyd ac ar y ffenest flaen.
Dim ond Cerbydau Hacni trwyddedig a ellir eu stopio ar y ffordd. Mae'r rhain yn gerbydau du gyda golau gwyn ar y to. Bydd gan bob un mesurydd yn nodi'r prisoedd presennol, a rhaid ei droi ymlaen ar gychwyn y daith er mwyn gwneud yn siŵr bod y tal cywir yn cael ei godi.
“Gall aelodau’r cyhoedd yn rhoi ei hunain mewn perygl trwy ddefnyddio cerbydau/gyrwyr heb drwydded a byddem yn annog pawb i feddwl eto cyn defnyddio cerbyd heb drwydded,” meddai’r Cynghorydd Symonds.
Dylid adrodd unrhyw bryderon am gerbydau heb drwydded at licensing@merthyr.gov.uk