Ar-lein, Mae'n arbed amser

Parc sglefrio newydd ar ei ffordd i Ferthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Awst 2023
Merthyr Skatepark_view15

Heddiw (Awst 10) mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu parc sglefrio Newydd sbon addas i’r teulu cyfan i ganol tref Merthyr Tudful.

Wedi ei gynllunio i gymryd lle y cyfleuster presenol ym Mhentref Hamdden Merthyr Tudful, bydd y parc sglefio newydd wedi ei leoli gyferbyn i Ganolfan Hamdden Merthyr Tudful- sydd hefyd i gael ei adnewyddu gyda’r pwll nofio i agor yr Hydref hwn.

Disgwylir iddo agor yn 202, fel Datblygiad ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful  a  Wellbeing Merthyr — gyda diolch i gyllid gan y Cyngor a menter Adfywio Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae darluniau o’r lleoliad arfaethedig yn cynnwys gwellianau i’r ardaloedd cyhoeddus yn dangos meinciau, blodau ac ardaloedd gwyrdd eraill.

Yn cysylltu yn naturiol i’r dirwedd sy’n bodoli eisoes bydd y cyfleuster yn plethu gyda’r llwybrau sy’n cysylltu y parc hamdden gyda canol tref Merthyr Tudful a’r Afon Taf.

Bydd dod â’r parc sglefrio yn nes at y Ganolfan Hamdden yn ei wneud yn fan mwy diogel i’r holl ddefnyddwyr — tra’n ei alinio’n uniongyrchol â’r cyfleusterau hamdden presennol, o’r Clwb Bowlio i’r Ganolfan Gol.

Bydd y parc concrid sydd wedi ei chynllunio gan arbenigwyr yn fangre ar gyfer sglefrfyrddwyr, beicwyr BMX a sgwteri fel eu gilydd- gyda’r cyfleusterau diweddaraf yn llawer mwy a gwell na’r parc presennol.

Mae’r datblygiad arfaethedig yn garreg filltir ym mhrif gynllun canol tref y Cyngor — a ddyluniwyd i drawsnewid Merthyr Tudful yn brifddinas twristiaeth y Cymoedd erbyn 2035, tra’n cynnig cyfleusterau a fydd yn ysgogi newid cadarnhaol ac yn cyfoethogi bywydau beunyddiol preswylwyr.

Fel rhan o gam ymgynghori’r prosiect, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gwahodd trigolion i roi adborth ar y datblygiad arfaethedig, drwy arolwg digidol byr. Fel arall, gellir darparu adborth trwy e-bostio: CRF@merthyr.gov.uk

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Geraint Thomas: "Rydym wrth ein bodd i ddatgelu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y parc sglefrio newydd. Gyda ffocws ar greu gofod bywiog a chynhwysol, rydym yn gobeithio y bydd y parc newydd yn helpu i feithrin ymdeimlad o falchder cymunedol tra'n meithrin talent ifanc a hyrwyddo ffordd egnïol o fyw i deuluoedd.

“Fodd bynnag, byddem wrth ein bodd yn clywed gan breswylwyr Merthyr Tudful wrth i ni lunio’r cynlluniau terfynol. Trwy rannu eich meddyliau a’ch syniadau, gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau bod y parc sglefrio yn dod yn dirnod annwyl am genedlaethau i ddod.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni