Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwaith ar fin dechrau ar drawsnewid adeilad yr YMCA

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Ebr 2022
YMCA april 22

Mae gwaith strwythurol ar fin dechrau ar gynllun  £8.6m  i ailwampio hen adeilad yr YMCA yn ganolfan economaidd ar gyfer busnesau lleol.

Mae’r adeilad Rhestredig Gradd II sydd wedi bod yn adfail ers dros ddegawd yn cael ei adnewyddu yn dilyn buddsoddiad gan Raglen Menter Treftadaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhaglenni Trawsnewid Trefi ac Adeiladu at y Dyfodol Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Fel rhan o’r gwaith, o ddydd Mawrth Ebrill 19, bydd  John Weaver Contractors yn cychwyn y gwaith angenrheidiol ar gefn yr adeilad rhwng 8am-4.30pm Llun i Wener am tua thair wythnos.

Bydd y gwaith yn cynnwys gosod craen symudol am y cyfnod o dair wythnos. Er mwyn galluogi mynediad i’r safle bydd rhaid cau Teras y Parc ar Ebrill 19, am ddim hirach na 30 munud. Ni fydd angen cau ffordd arall ac nid oes disgwyl y bydd rheolaeth traffig mewn lle.

Cafodd cyn adeilad yr YMCA, adeilad amlwg ‘ o bwysigrwydd rhyngwladol’ ac yn nodwedd amlwg o ran ogleddol canol y dref ei greu gan y pensaer Cymreig Syr Percy Thomas yn 1911.

Mae’r project yn rhan o waith ehangach adnewyddu ym Merthyr Tudful a bydd yn darparu 10 uned wahanol mewn  ‘ adeilad masnachol o safon uchel mewn lleoliad hanesyddol unigryw’ ar gyfer busnesau a’r gymuned leol.

Yn ystod y gwaith cychwynnol, mae’r contractwyr yn gobeithio cadw lefel y sŵn lawr gyda gwaith codi'r craen ac eraill yn digwydd o fewn ardal ddiogel wedi ei gyfyngu.

Gofynnir i breswylwyr Teras y Parc gadw'r mynediad i’r safle ar agor, Adeilad y Seiri Rhyddion a 9 a 9A Teras y Parc er mwyn galluogi gweithwyr i ymgymryd â gwaith symud yn ddiogel.

“Mae ystyriaethau Iechyd a Diogelwch yn flaenllaw mewn projectau adeiladu gan fod safleoedd adeiladu yn lleoliadau gyda’r potensial o fod yn beryglus,” meddai’r Rheolwr Safle Nigel Latham. “Gallwn  sicrhau preswylwyr bod pob ystyriaeth posib wedi ei wneud ac ymddiheurwn am yr anghyfleustra.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni