Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwaith yn dechrau ar brosiect tai fforddiadwy £4.4m

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Awst 2021
DSC_0235

Mae’r gwaith wedi dechrau ar adeiladu 31 o dai newydd o ‘ansawdd uchel’ i’w rhentu fel rhan o ddatblygiad £4.4miliwn mewn rhan wledig o Ferthyr Tudful.
Mae prosiect Cymdeithas Tai Merthyr Tudful yn Heol Bryniau, Pant yn cael ei ariannu’n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a ddyfernir drwy’r Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Bydd yr adeiladwyr lleol, Holbrook Homes, yn adeiladu 15 o fflatiau un ystafell wely, 12 o dai dwy ystafell wely, dau dŷ tair ystafell wely a dau fyngalo dwy ystafell wely mewn ardal o dir diffaith ar y ffordd i’r Pant.

Fel rhan o’r contract, mae Holbrook Homes yn darparu cyfleoedd am swyddi newydd a hyfforddi sgiliau yn uniongyrchol a thrwy ei gadwyn gyflenwi ac isgontractwyr. Mae gan y cwmni hefyd gynlluniau i weithio gydag Ysgol Gynradd Pantysgallog gerllaw ar amrywiaeth o brosiectau yn yr ysgol ac o’i hamgylch. Torrwyd y dywarchen gyntaf yn y datblygiad ddoe gan Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Lisa Mytton a Karen Courts, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Merthyr Tudful.

 

Ynghyd â’r dyraniad Grant Tai Cymdeithasol o £2.6m, gwnaeth Cymdeithas Tai Merthyr Tudful ffynonellau arian preifat gwerth £1.8m.  Cyllideb flynyddol yw’r Grant Tai Cymdeithasol, sy’n cael ei dyrannu i awdurdodau lleol yng Nghymru bob blwyddyn i ariannu cynlluniau tai sy’n diwallu anghenion a blaenoriaethau tai lleol. Y cynghorau sy’n gyfrifol am ddewis partneriaid cymdeithasau tai i ddatblygu, meddu ar, a rheoli’r tai.

 

“Mae’r Grant Tai Cymdeithasol wedi cael ei sicrhau drwy’r bartneriaeth gref rhwng gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol a Chymdeithas Tai Merthyr Tudful i gyflenwi’r angen am dai newydd fforddiadwy ym Merthyr Tudful,” dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor y Cynghorydd Alyn Owen. “Mae’n cynrychioli’r enghraifft ddiweddaraf o’r Cyngor a Chymdeithas Tai Merthyr Tudful yn gweithio ynghyd i symud datblygiad newydd a phrosiectau adfywio yn eu blaen, ac mae nifer o enghreifftiau eraill ohonynt ar y gweill,” ychwanegodd. “Mae’r ystâd newydd hon hefyd mewn rhan brydferth o’r fwrdeistref sirol a bydd ei phreswylwyr yn byw mewn amgylchedd dymunol a gwledig gyda golygfeydd godidog.”

 

Dywedodd Karen Courts: “Gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol, grant oddi wrth Lywodraeth Cymru a chyllid preifat oddi wrth y Gymdeithas, bydd y cynllun hwn yn darparu 31 o dai newydd a fydd ar gael i’w prydlesu am rent fforddiadwy. 
“Rydym wrth ein boddau yn gweithio gyda Holbrook Homes ar y datblygiad newydd cyffrous hwn ac edrychwn ymlaen at gyflenwi cartrefi o ansawdd uchel i’n tenantiaid.”

 

Dywedodd Gareth Bevan, Rheolwr Gyfarwyddwr Holbrook Homes: “Fel busnes lleol, rydym yn ymroddedig i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r cymunedau lleol yn y Fwrdeistref Sirol, yn uniongyrchol a thrwy eu cadwyn gyflenwi fel isgontractwyr.”

 

Disgwylir i’r cartrefi newydd gael eu cwblhau ym mis Gorffennaf 2022 a bydd Cymdeithas Tai Merthyr Tudful yn hysbysebu eu bod ar gael cyn hynny.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni