Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwaith i ddechrau ar drawsnewidiad arloesol Canolfan Ddysgu Gymunedol

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Chw 2022
NCL revamp work to start

Mae’r gwaith ar fin dechrau ar drawsnewid y Ganolfan Ddysgu Gymunedol yn y Gurnos i ganolfan hyfforddiant a llety arloesol ar gyfer trigolion ifanc y fwrdeistref sirol.

Bydd yr adeilad, sydd wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan addysgol i helpu pobl ifanc ac oedolion di-waith i chwilio am waith ers 25 mlynedd, yn parhau i gynnig hyfforddiant yn ogystal â phump fflat hunangynhaliol mewn tri bloc.

Y bwriad yw ymateb i’r galw am gartrefi fforddiadwy yng Nghymru, wrth gefnogi ein pobl ifanc sydd angen llety er mwyn byw yn annibynnol wrth chwilio am hyfforddiant a gwaith.

Mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid cyfalaf o £1,126,174 ar gyfer y project gan Gronfa  Raglen Gyllid Dewisol Gofal Integredig Cwm Taf Morgannwg, sydd wedi nodi gweithio gyda phobl ifanc a phlant mewn gofal fel blaenoriaeth. Fe fydd yr Awdurdod Lleol hefyd yn clustnodi £221,000 o arian cyfatebol.

“Mae’r Ganolfan Ddysgu Gymunedol yn dechrau dangos ei oed a bydd hwn yn drawsnewidiad arloesol a deniadol,” meddai'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Diogelwch Cyhoeddus y Cyng. Geraint Thomas.

“Fe fydd y tri bloc ac uned fasnachol yn cael eu troi yn llety addas modern a diogel i gwrdd yr angen am dai. Fe fydd gan y tenantiaid fynediad at hyfforddiant ar y safle a all arwain at addysg bellach yn y coleg lleol a chyfle am waith yn y dyfodol.” 

Y dyddiad dechrau arfaethedig yw Chwefror 7, gyda lansiad y cyfleusterau newydd ddiwedd Awst 2022.

Cysylltwch yn uniongyrchol gydag ymholiadau trwy ffonio 01685 725475 neu e-bostio: housing@merthyr.gov.uk <mailto:housing@merthyr.gov.uk>

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni