Ar-lein, Mae'n arbed amser
Darpar yrwyr yn ciwio i yrru bws
- Categorïau : Press Release
- 14 Hyd 2022
Roedd diwrnod recriwtio gyrwyr a gynhaliwyd gan Stagecoach ym Merthyr Tudful y penwythnos diwethaf yn llwyddiant ysgubol, gyda mwy na 20 o ddarpar yrwyr yn troi fyny.
Roedd digwyddiad ‘gyrru bws’ y cwmni a gynhaliwyd yng Ngholeg Merthyr yn rhoi cyfle i bobl gael tr oar yrru bws, hyd yn oed os nad oeddent wedi gwneud o’r blaen yn cael ei gefnogi gan raglen Cymunedau Gwaith + y Cyngor Bwrdeistref Sirol a’i phartneriaid Canolfan Waith+.
“Roedd tim Stagecoach yn hapus dros ben”, meddai Arweinydd y Cyngor y Cyng. Geraint Thomas, sydd wedi bod yn rhan o gyfres o drafodaethau er mwyn helpu'r broblem o wasanaethau bws yn cael ei gohirio oherwydd prinder gyrwyr yn yr ardal.
“Roedd yn gymaint o lwyddiant, fel mae’n debygol y bydd digwyddiad arall yn cael ei gynnal er mwyn dangos y cyfleoedd ac er mwyn estyn allan at y cyhoedd o amgylch y dref,” ychwanegodd.
Mae Stagecoach yn barod i dalu i unrhyw un llwyddiannus i hyfforddi er mwyn ennill cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig mewn Trafnidiaeth Teithwyr a Thrwydded TCT (Trwydded Cario Teithwyr), gwerth tua £4,000.